Ers pan oeddwn i’n ifanc, roeddwn yn dwlu ar arlunio ac roedd gen i ben yn fy llaw yn gyson, felly penderfynes i ddilyn llwybr i mewn i gelf a dylunio.
Astudies i gelf a dylunio yn Llandrillo, ac yma darganfyddes i fod gen i ddawn am animeiddio, a arweiniodd fi at Goleg Celf Caeredin. Ar ôl gorffen yng Nghaeredin, symudes i Berlin i weithio mewn stiwdio mawr, ac yna’n ôl i’r DU i weithio’n brif animeiddiwr yn Rhydychen, cyn cymryd y cam i gychwyn fy musnes fy hun.
Roedd fy ngwaith yn Rhydychen yn golygu bod modd i mi weithio o gartref yn ôl yng Ngogledd Cymru, lle dechreues i adeiladu fy musnes a’n sylfaen cleientiaid yn araf. Yn Ionawr 2016, ymunodd fy ngwraig, dylunydd graffig, â mi yn y busnes fel partner cyfartal, a chyda’n gilydd gweithredwn ni White Wabbit Studio.
Ffactorau Llwyddiant: Cadw’n hunain a’n cleientiaid yn hapus wrth wneud gwaith o’r radd flaenaf; cael angerdd gwirioneddol am y gwaith a wnawn ni ac awydd go iawn i weithio gyda’n cleientiaid.
Sgiliau Busnes: Cychwyn Busnesau; Gwella Effeithlonrwydd Busnes; Arloesi; Marchnata; Rheoli Prosiectau a Phrosesau