Tony Orme
Tony Orme
Crackpots
Trosolwg:
Yn gwneud gwaith crefft yn fwy hygyrch i bobl yng nghanolbarth Cymru
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Powys

Sefydlais Crackpots gyda fy ngwraig a'r teulu yn 2005, i’w redeg ochr yn ochr â'n swyddi eraill. Mae'r busnes yn seiliedig ar ein brwdfrydedd ar gyfer celf a chrefft, a'i nod yw gwneud gwaith-crefftau’n fwy hygyrch i bobl yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru. Rydym yn cynnal partïon gwneud gemwaith enamel a chrochenwaith i’w baentio eich hun, ac rydym yn gweithio gyda grwpiau o bob math o blant i bobl hŷn. 
 
Gallwch lwyddo yn unrhyw beth – gallwch gael swydd llawn amser neu ran amser yn gweithio i rhywun arall yn ogystal â rhedeg eich busnes eich hun yn eich amser eich hun!
Tony Orme - Crackpots
 
Mae'r busnes wedi troi hobi’n rhywbeth pendant, yn rhywbeth masnachol, gan roi incwm ychwanegol i ni, a’n cynnwys mewn gweithgareddau cymunedol – rydym ni wrth ein boddau â hynny.

 

Gwefan: www.crackpotsonline.co.uk