Fi yw sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Introbiz. Rydym yn rhwydwaith busnes uchel ei barch, gyda channoedd o aelodau o bob math o ddiwydiannau a sectorau, yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio busnes wythnosol mewn hanner cant o leoliadau ledled y DU ac yn rhyngwladol, ac yn cynnal arddangosfa fusnes fwyaf Cymru yn flynyddol yng Nghaerdydd. Mae ein clwb rhwydweithio busnes a’n haelodau yn amrywiol iawn ac mae’n digwyddiadau i gyd yn unigryw. Rydym yn ymdrechu i helpu ein haelodau, i gysylltu, i gydweithio, i ddysgu ac i lwyddo.
Byddwch yn naturiol, ymlaciwch a mwynhewch eich hun oherwydd mae pobl yn prynu oddi wrth bobl maen nhw’n eu hadnabod, yn eu hoffi ac y maen nhw’n ymddiried ynddynt.
Tracy Smolinski - Introbiz
Dechreuais weithio ym maes rhwydweithio am y tro cyntaf yn 2007, ac oherwydd diffyg profiad, roedd fy nhri mis cyntaf yn anodd iawn. Oherwydd fy nghefndir ym maes gwerthiannau, dechreuais gyda dull gwerthu, yn ceisio gwerthu i'r ystafell, ond nid oedd hynny’n gweithio. Fe wnes i bron iawn roi’r gorau iddi, ond cyn i mi wneud hynny, cefais gyngor rhwydweithio gwych. Mae rhwydweithio’n ymwneud â meithrin perthynas ac ymddiriedaeth. Yn fuan ar ôl hynny, dechreuais rwydweithio yn y ffordd gywir a dechreuais sylweddoli pa mor bwerus all rhwydweithio fod. Sylwais fod yna fwlch yn y farchnad a chyfle gwych i sefydlu fy musnes rhwydweithio fy hun. Sefydlwyd Introbiz o fy mwriad i gyfateb busnesau gyda'u cynulleidfaoedd targed mewn digwyddiadau a lleoliadau pum seren.
Mae'n bwysig cael cydbwysedd gwaith / bywyd, amgylchynu eich hun gyda phobl cadarnhaol a theulu. Rwyf wedi gweithio'n galed i gyrraedd lle rydw i wedi’i gyrraedd heddiw ac wedi llwyddo i gynnal cydbwysedd iach, gan sicrhau bod amser gwerthfawr yn cael ei dreulio gyda fy mhlant a fy ngŵr ochr yn ochr â'm oriau gwaith prysur.
Rwy'n falch iawn o fod yn Fodel Rôl Syniadau Mawr ac rwy’n ffynnu o helpu eraill. Gyda gwaith caled ac ymroddiad, gallwch gyflawni unrhyw beth.
Gwefan: introbiz.co.uk