Mi wyddwn o’r cychwyn fy mod am weithio i fy hun, ond roeddwn am gael cymwysterau, hyfforddiant a phrofiad yn y diwydiant yn gyntaf, i gael y siawns orau posibl o lwyddo. Felly'r cam cyntaf oedd mynd i goleg celf i ddilyn cwrs sylfaen mewn celf a dylunio, ac yna gradd mewn dylunio dodrefn yn Llundain. Wedi hynny bûm yn gweithio fel datblygwr cynnyrch i weithgynhyrchwyr a gwerthwyr dodrefn. Daeth yn amlwg i mi pa mor wastraffus y gall y broses weithgynhyrchu fod ac roedd hyn yn ysbrydoliaeth i mi i gymryd y lledr gwastraff i greu nwyddau lledr moethus. Pan benderfynais symud yn ôl adref i Gymru roedd gen i syniad a chynllun ar gyfer fy musnes.
Sefydlwyd Coterie ar egwyddorion cynaliadwy cryf gydag ymwybyddiaeth ecolegol, ac rwyf yn hapus iawn gyda’r ffordd mae fy musnes wedi tyfu. Rwyf wedi gadael y byd 9 tan 5 prysur yn Llundain ac mae gen i’n awr gydbwysedd hapus rhwng bywyd a gwaith, gan weithio o stiwdio yn fy nghartref ar arfordir Sir Benfro. Mae’r lledr rwyf yn ei ddefnyddio’n ysgafn, yn ystwyth ond yn gryf ac yn llawn cymeriad.
"Byddwch yn benderfynol. Gwrandewch ar gyngor – ond chi’n unig sy’n gwybod beth yw eich galluoedd felly credwch yn eich hun." Tracy Watkins - Coterie Leather Bags.