Trevor Palmer
Trevor Palmer
GL100.com Ltd
Trosolwg:
mae’n cynghori busnesau ynghylch cynhyrchu, dylunio, gwerthu, marchnata a dosbarthu
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Casnewydd

Cyn dechrau fy musnes fy hun, fe hyfforddais fel dylunydd bagiau, roeddwn yn berchen ac yn rhedeg oriel gelf a stiwdios yn Llundain, bûm yn rheoli ffatri ymbarél, a bûm yn gweithio fel ceidwad sw cynorthwyol. Nawr rwy'n gweithio mewn nifer o wahanol feysydd, yn cynnig gwasanaethau a chyngor ymgynghorol i wahanol fusnesau a sefydliadau ym maes cynhyrchu, dylunio, gwerthu, marchnata a dosbarthu.
 
Edrychwch ar y senario waethaf bosibl ac os gallwch ddelio â honno, ewch amdani a dilyn eich greddf.
Trevor Palmer - GL100.com Ltd
 
Datblygodd fy niddordeb mewn busnes ymhellach pan ddeuthum yn ddefnyddiwr cadair olwyn gan fy mod yn dylunio, yn cynhyrchu ac yn gwerthu cynnyrch ar gyfer pobl anabl. Sefydlais un o'r gwefannau e-fasnach cyntaf yng Nghymru yn y 1990au.
 
Mae bod yn fos ar fy hun yn fy ngalluogi i fod mor annibynnol ag y dymunaf; nid yw cyfleoedd yn cadw amserlen 9 - 5, ac i lwyddo mae’n rhaid i chi eu cymryd pryd bynnag maent yn dod. Fe sefydlais ResponsABLE Assistance ddeng mlynedd yn ôl – mae bod yn llwyddiannus mewn busnes wedi fy ngalluogi i redeg ac ehangu’r sefydliad nid er elw hwn.