Vickie Flemming - the Role model
Vickie Fleming
Theatr Pigtown (Cwmni Buddiant Cymunedol)
Trosolwg:
Dod â chymunedau ynghyd drwy gynnig a chreu cyfleoedd creadigol i unigolion danio eu hunan-sbarc.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Conwy

Fi yw Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Buddiant Cymunedol Theatr Pigtown. Rydw i’n actor sydd wedi cael hyfforddiant clasurol, ond fel gweithiwr creadigol ym myd y theatr, rydw i’n gweithio llawer gyda Chynghorau, elusennau a grwpiau cymunedol er mwyn cynnig cyfleoedd creadigol. Rydw i’n gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru ac rydw i’n falch o ddweud ei fod yn Hyrwyddwr Celfyddydau a Drama ar gyfer gogledd Cymru.

Rydw i’n cael fy nhalu i lunio a chyflawni prosiectau mae pobl yn eu mwynhau. Rydw i wrth fy modd yn defnyddio fy sgiliau bob dydd a theimlo bod popeth rydw i’n ei wneud yn gallu cael effaith uniongyrchol ar lwyddiant y busnes.

Rwy'n teimlo’n angerddol dros y grym sydd gan y celfyddydau i ysbrydoli, i gymell ac i gyffwrdd â bywydau pobl. Un o'r agweddau mwyaf cyffrous ar fy swydd yw gallu tanio sbarc mewn pobl, sef magu hyder pobl, ymgysylltu â phobl sydd heb gysylltiad, a dod â phobl ynghyd i greu rhywbeth a all fod yn ystyrlon ac yn ddoniol yn ogystal ag uno pobl. Yn ystod gweithdai Syniadau Mawr Cymru, rydw i’n rhoi cyngor, yn annog ac yn galluogi pobl eraill i wneud dewisiadau am eu dyfodol. Mae hynny'n rhoi boddhad gwirioneddol.

Rydw i wedi bod mewn ysgol ddrama, wedi gweithio fel actor ac wedi sefydlu cwmni. Fodd bynnag, mae’r gwaith rydw i’n ei wneud heddiw mewn ysgolion, theatrau, canolfannau cymunedol (ac, unwaith, ar y traeth) - yn hybu ymdeimlad o gymuned a mwynhad. Dyma rywbeth roeddwn i’n ei deimlo pan oeddwn i’n blentyn ac rydw i eisiau i bobl eraill gael yr un ymdeimlad. Yn fwy na dim, rydw i eisiau gallu cynnig yr hyn rydw i’n gwybod sy’n bosib, sef gofod.

 

Rydw i wrth fy modd yn defnyddio fy sgiliau bob dydd a theimlo bod popeth rydw i’n ei wneud yn gallu cael effaith uniongyrchol ar lwyddiant y busnes.

Mae rhedeg busnes yn anodd, ac mae rhedeg busnes bach yn anodd iawn. Rydw i’n gyfrifol am wneud pob swydd, fel ffilmio, cyfrifyddu, marchnata, datblygu prosiectau, cyflawni a gwneud te. Mae’r gwaith yno bob amser ac mae’n gallu bod yn anodd gwybod pryd i roi’r gorau i weithio. Rydw i’n gwneud gwaith ychwanegol gyda’r nos ac mae llawer o’r oriau rydw i’n eu gweithio yn dd-dâl. Dydw i ddim yn cael tâl am wyliau na thâl salwch, a gan ei bod hi’n anodd rhagweld y gwaith, mae’n anodd iawn trefnu amser i ffwrdd o’r gwaith.

Mae hi’n bwysig bod yn drefnus, siarad â phobl a chofio cymryd seibiant er mwyn cydbwyso bywyd a gwaith.

Mae pob prosiect newydd yn foment greadigol gyffrous, ac rydw i’n falch iawn fod yr holl waith caled wedi talu ar ei ganfed. Mae fy nghyfrifoldeb o ran cyflawni prosiectau yn ddigon i godi ofn arnaf ar brydiau, ond mae gwybod mai fi sy'n rheoli yn gwneud y cyfan yn werth chweil.