Wayne Campbell
Crystal Engraving
Trosolwg:
Engrafu delweddau cydraniad uchel ar wydrau crisial a gwydr pensaernïol
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Ceredigion

Fe ddechreuais fy musnes engrafu crisial ar ôl colli fy swydd pan oeddwn yn fy 40au. Ni allwn ddod o hyd i swydd arall, felly fe ddysgais fy hun sut i engrafu gwydr.

"Peidiwch â gadael i bobl eraill newid eich meddwl os oes gennych syniad busnes da. Fodd bynnag, treialwch eich syniad cyn ymrwymo eich holl adnoddau iddo."

Wayne Campbell - Crystal Engraving

Fe weithiais mewn gweithdy garej bach iawn yn gwneud tasgau syml iawn ar fainc fechan heb bron unrhyw offer.  Erbyn hyn, mae gen i'r offer diweddaraf a gweithdy mawr a phwrpasol sy'n fy ngalluogi i wneud gwaith na faswn erioed wedi'i ddychmygu. 

Rydw i hefyd yn darparu deunyddiau a chynhyrchion a gwasanaethau proffesiynol i engrafwyr ac artistiaid eraill.

Mae Crystal Engraving yn engrafu delweddau cydraniad uchel ar wydrau crisial a gwydr pensaernïol  Rydyn ni'n defnyddio amrywiaeth o ddulliau engrafu gan gynnwys: Sgwrio â thywod, drilio diemwnt, CNC a laser.  Rydyn ni'n cael ein comisiynu i gynhyrchu darnau wedi’u teilwra, ond rydyn ni hefyd yn gwerthu drwy ffeiriau crefft, orielau ac ar-lein.


Cysylltu gyda Wayne