Wesley Skene
WS Marketing
Trosolwg:
Ymgynghoriaeth gydag ystod lawn o wasanaeth marchnata
Sectorau:
Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol
Rhanbarth:
Caerdydd

Rydw i wedi byw yn y Bont-faen drwy gydol fy mywyd ac fe es i'r ysgol a sefyll fy arholiadau TGAU a Safon Uwch yno. Fe enillais HND, gradd a gradd Meistr mewn marchnata ym Mhrifysgol Morgannwg.

Fe ddechreuais y busnes ym mis Rhagfyr 2006. Rydyn ni'n ymgynghoriaeth gydag ystod lawn o wasanaethau marchnata.

"Fy nghyngor gorau i yw 'peidiwch ag oedi - ewch amdani'."

Wesley Skene - WS Marketing

Ar ôl gadael y brifysgol, fe weithiais am tua blwyddyn i ymgynghoriaeth yn y Bae. Ro’n i wastad wedi meddwl y baswn yn gweithio imi fy hun, ac un diwrnod fe penderfynais fynd amdani.

Rwy'n mwynhau'r ffaith nad ydw i'n atebol i neb. Mae gen i rwydd hynt i wneud beth ydw i eisiau, pryd bynnag sydd orau gen i, er bod hynny'n golygu gorfod gweithio ar benwythnosau fel arfer.

Fodd bynnag, fy arian i yw pob ceiniog rydw i'n ei ennill. Os ydych yn gweithio i rywun arall, rydych yn gwybod y cewch eich talu ddiwedd y mis. Drwy weithio i chi eich hun, mae rhywfaint o nerfusrwydd yng nghefn eich meddwl a ydych yn mynd i gael y cleientiaid ai peidio.


Cysylltu gyda Wesley