Yoka Kilkelly
Siramik
Trosolwg:
Cyrsiau crochenwaith sy’n arbenigo mewn creu crochenwaith ar yr olwyn.
Sectorau:
Gwasanaethau Creadigol
Rhanbarth:
Caerfyrddin

Mae Siramik yn cynnig dosbarthiadau crochenwaith o’r radd flaenaf gan arbenigo mewn creu crochenwaith ar yr olwyn. Mae ein stiwdio wedi’i lleoli yng nghefn gwlad bryniau Sir Gaerfyrddin. Mae Siramik hefyd yn ymweld â phobl leol yn eu cartrefi neu leoliadau eraill fel adloniant mewn partïon pen blwydd, digwyddiadau teuluol, digwyddiadau corfforaethol ac yn y blaen. Mae ysgolion yn elwa ar werth addysgol a chreadigol y grefft a’r hyfforddiant arbenigol wrth olwyn y crochenydd.