Rydw i’n arbenigwr yn y diwydiant priodasau ac mae gen i brofiad amlwg fel ymgynghorydd a rheolwr busnes lleoliadau priodasau yng Nghymru. Yn ogystal â chynyddu proffidioldeb lleoliadau priodasau yng Nghymru a nifer y priodasau maen nhw’n eu cynnal, rydw i’n arbenigo mewn gwasanaethau priodas cynaliadwy a moesegol a’r arferion gorau o ran hynny. Yn ogystal â fy ymgynghoriaeth busnes lleoliadau priodasau, mae gen i ddau fusnes cysylltiedig arall: Wild Roots Kitchen & Bar a Green Manatee.
Rydw i wedi bod yn rheolwr busnes lleoliadau priodasau ar gyfer llefydd bach, cestyll mawr, llefydd newydd sbon a llefydd sydd wedi hen ennill eu plwyf yn y diwydiant priodasau yng Nghymru.
Mae gen i gefndir ym maes rheoli manwerthu, cynllunio lle, a marchnata gweledol yn y sectorau bwyd a rhoddion. Rwyf hefyd wedi gweithio yn y sectorau elusennol a di-elw.
Rydw i’n frwd dros gefnogi busnesau ac unigolion wrth iddyn nhw gymryd camau tuag at arferion mwy cynaliadwy ac eco-gyfeillgar, yn ogystal ag arwain cwmnïau i fod yn fwy cynhwysol ac i wasanaethu’r gymuned LGBTQ+ yn well.
Ffactorau Llwyddiant: Arbenigwr y diwydiant priodasau, Hyrwyddwr busnesau cynaliadwy
Sgiliau Busnes: Cynllunio Busnes; Dechrau Busnes; Rheoli Prosiectau; Masnachu Ar-lein; Cynaliadwyedd mewn busnes; Ymgynghorydd