Zoe Blackler
Café Junior
Trosolwg:
Campfa a Chaffi i Deuluoedd
Sectorau:
Bwyd a diod
Gofal iechyd a gofal cyflenwol
Twristiaeth
Rhanbarth:
Caerdydd

Mae Café Junior yn gaffi soffistigedig sydd â man chwarae, ac mae wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer teuluoedd sydd â phlant rhwng 0 a 5 oed.

Mae ganddo ddau is-fusnes llwyddiannus: Bwyty tapas 'dros dro' yw Family Bistro lle gall rhieni ddod â'u plant - a'u gwin eu hunain - i fwynhau noson allan. Rydyn ni hefyd wedi lansio Gym and Junior lle gall rhieni wneud ymarfer corff heb orfod poeni am ofal plant.

"Fe wnes i sefydlu'r busnes i allu rhoi dyfodol sicr i fy mhlant. Maen nhw hefyd yn help mawr pan fydda i’n ymchwilio i'r farchnad!"

Zoe Blackler - Café Junior