Ennill Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn a ffynnu yn ystod y pandemig: Taith lwyddiannus Ethan Quinn

Ethan Quinn

Dechreuodd Ethan ei sefydliad, EQMedia, pan nad oedd ond yn 14 oed drwy dynnu lluniau i fusnesau a digwyddiadau lleol yn Llandudno.

“Doeddwn i’n gwybod dim am fyd busnes. Yr unig berchennog busnes roeddwn i’n ei adnabod oedd fy nhaid, a oedd yn rhedeg siop yn y 70au. Fy swydd gyntaf oedd tynnu lluniau o faes carafannau ffrind fy nhad am £20.

“Ond roeddwn i wedi dod i adnabod rhai perchnogion busnes yn yr ardal, ac roedden nhw wedi fy nghymryd dan eu hadain. Rwy’n credu fod pobl wedi gweld fy mod i’n rhoi ymdrech i mewn i’r gwaith, felly wedi rhoi cyfle i mi. Rwy’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am hynny.”

Bu Ethan hefyd yn tynnu lluniau o gigs a digwyddiadau lleol, ac yn raddol mi adeiladodd sylfaen cwsmeriaid yn Llandudno.

Pan oedd Ethan yn y Chweched Dosbarth yng Ngholeg Llandrillo, daeth ar draws Karen Aerts, Swyddog Menter Syniadau Mawr Cymru gyda’r Coleg.

“Roedd hi’n anhygoel,” meddai Ethan. “Roedd fy hunan-hyder yn eithaf isel ar y pryd, ond dangosodd Karen fod gen i’r hyn sydd ei angen i fod yn berchennog busnes llwyddiannus.”

Karen a roddodd enw Ethan ymlaen yng Ngwobrau Busnes Gogledd Cymru. Cyrhaeddodd Ethan y rhestr fer ar gyfer tair gwobr.

“Un o’r uchafbwyntiau yn fy ngyrfa proffesiynol oedd ennill Gwobr Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn Gogledd Cymru,” meddai Ethan. “Roeddwn i’n 16 oed, a cefais fraw pan welais yr holl bobl wedi gwisgo’n grand. Pan sefais ar y llwyfan i gasglu fy ngwobr, rwy’n cofio meddwl, ‘dyma drobwynt i mi’.”

Ethan Quinn

Rhoddodd Karen hefyd gyngor i Ethan a’i gefnogi i ehangu ei fusnes. Sylwodd Ethan bod angen i fusnesau bach ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gyrraedd cwsmeriaid penodol ond nid oedd yn gwybod sut i wneud hynny, felly helpodd Karen ef i ehangu ei orwelion i allu monitro a chreu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae EQMedia nawr yn cynnig fideograffeg, dylunio graffeg, dylunio gwefannau a monitro cyfryngau cymdeithasol ac mae Ethan yn gweithio gyda thîm o weithwyr llawrydd dibynadwy ar draws gogledd Cymru a gogledd Lloegr.

Mae Ethan yn rhoi’r clod i Syniadau Mawr Cymru am roi hyder iddo.

“Fel ffotograffydd, rwy’n fwy cyfforddus y tu ôl i’r camera, felly rwyf wedi cael trafferth gyda hunan-hyder isel ac wedi dioddef o orbryder. Roedd mynychu digwyddiadau a hyfforddiant Syniadau Mawr Cymru wedi rhoi mwy o hyder i mi i allu siarad yn gyhoeddus a gallu rhwydweithio â pherchnogion busnes – mae hynny wedi bod yn hanfodol ar gyfer fy llwyddiant.”

Ar ddechrau’r pandemig, y rhwydwaith hwn o fusnesau a chwsmeriaid lleol a roddodd gymorth iddo.

“Bu farw fy Nhad ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod clo – cafodd ddiagnosis o ganser fis cyn ei farwolaeth. Roedd yn gyfnod anodd iawn. Yn sydyn, doedd gen i ddim Tad, dim arian, a doeddwn i ddim yn gallu gweld fy nheulu oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo.

“Roeddwn i’n gweithio ar sefydlu EQMedia i gadw fy hun yn brysur. Er nad oedd gan fy nghwsmeriaid ffyddlon lawer o arian i’w sbario, roeddynt yn parhau i roi gwaith i mi. Dyna beth oedd yn dda yn ystod y pandemig, bod pawb yn helpu ei gilydd. Roedd hi’n anhygoel cael y cydgefnogaeth honno.”

Dywedodd Ethan nad yw’n difaru dechrau busnes ac yntau mor ifanc ar y pryd, er gwaethaf yr heriau sydd wedi ei wynebu.

“Mae dechrau busnes pan ydych chi’n ifanc yn eich aeddfedu chi. Roedd adegau pan oeddwn i’n amau fy newisiadau, fel pan oedd fy ffrindiau’n mynd allan i gael hwyl a minnau wedi glynu i fy nghyfrifiadur yn golygu.

“Ond gan fod pawb bellach wedi tyfu i fyny ac yn gweithio 9 tan 5, rwy’n falch fy mod wedi dal ati. Rwyf wrth fy modd yn rhedeg fy musnes fy hun. Mae gen i chwe mlynedd o brofiad o fewn y maes a minnau’n ugain oed - mae hynny’n rhoi cychwyn da i mi.”

Yn 2020, daeth Ethan yn Llysgennad Ifanc i Syniadau Mawr Cymru, ac yna’n Fodel Rôl Syniadau Mawr Cymru yn 2022. Ym marn Ethan, mae bod yn Fodel Rôl ifanc yn ei wneud yn haws i bobl ifanc uniaethu ag o.

“Gan fy mod yn ugain oed fy hun, rwy’n ymwybodol o’r pwysau sydd ar bobl ifanc. Mae pobl ifanc yn clywed yr un dywediad yn yr Ysgol neu yn y Coleg bob tro, sef ‘dyma flwyddyn bwysicaf dy fywyd’. Maen nhw’n bryderus am eu dyfodol oherwydd hynny. Yn fy marn i, mae’n beth da iddyn nhw weld bod ffordd arall, a bod modd llwyddo y tu allan i’r ysgol.

“Fy nghyngor i ar gyfer pobl ifanc fyddai i fynd i siarad â phobl, i sgwrsio â pherchnogion busnes lleol, ac i wneud cysylltiadau gwahanol. Fyddwn i’n sicr ddim yn y sefyllfa’r ydw i ynddi nawr heb gymorth tua chant o bobl - gan gynnwys Karen a Syniadau Mawr Cymru. Does neb am gyflogi rhywun nad ydynt yn eu hadnabod.”

Ethan Quinn