Yr Her

Meddyliwch am ateb i rywbeth fyddai’n cael effaith bositif/gadarnhaol ar bobl o’ch amgylch neu yn eich cymuned. Dyma yw eich syniad busnes cymdeithasol newydd!

Dywedwch wrthym am y syniad

Dywedwch wrthym am yr effaith bositif (effaith)

Dywedwch wrthym sut y byddwch yn gwneud arian (proffid)

Dywedwch wrthym sut yr ydych wedi ystyried y 3P (pobl, planed, proffid)

Rhowch y cyfan at ei gilydd i greu naill ai fideo neu gyflwyniad PowerPoint i ddod â’ch syniad yn fyw.

Yr hyn sy’n allweddol am y gweithgaredd yma yw eich bod yn ‘dechrau rhywbeth da’ ac yn bwysicaf oll eich bod yn ei fwynhau! Pan fyddwch chi yn elwa, mae cymdeithas yn elwa!   

 

 

Pwy all ymgeisio

Pobl ifanc 11-18 mlwydd oed sy’n byw yng Nghymru (gallech fod yn yr ysgol, coleg, mewn hyfforddiant neu waith, yn chwilio am waith, neu’n grŵp cymunedol)

Gallwch ymgeisio fel unigolyn neu fel rhan o grŵp (uchafswm o chwe aelod).

 Eich syniad

Gall fod yn syniad newydd sbon y credwch y byddai'n gweithio, neu'n rhywbeth rydych chi eisoes wedi bod yn gweithio arno (ar yr amod ei fod wedi digwydd rhwng 1af Ionawr 2021 a 26 Mai 2022). Cyn belled â'i fod yn mynd i'r afael â'r Her, mae'n gymwys.

Sut y byddwch chi’n elwa o gymryd rhan?

Trwy gymryd rhan byddwch yn archwilio byd busnes mewn ffordd hwyliog ac yn datblygu sgiliau entrepreneuraidd fel datrys problemau, gwaith tîm, gwytnwch, hyder a chreadigrwydd – sgiliau hollbwysig i gyd ar gyfer beth bynnag a wnewch yn y dyfodol.

Os ydych yn yr ysgol neu’r coleg, bydd yr her hon yn ategu’r gwaith rydych chi eisoes yn ei wneud, megis mewn Astudiaethau Busnes, Bagloriaeth Cymru, wrth ysgrifennu’ch Datganiad Personol.

Os ydych wedi gadael addysg byddai hwn yn gyfle gwych i chi ddatblygu eich sgiliau, ac yn enwedig os oes gennych ddiddordeb mewn busnes a chefnogi eich cymuned. Efallai bod gennych hobïau y gallwch o bosibl eu troi’n syniad busnes!

Pan fydd pobl yn meddwl yn fwy entrepreneuraidd, maen nhw'n gweld mwy o gyfleoedd ac yn creu gwell dyfodol iddyn nhw eu hunain.

Gwyliwch y fideo uchod i wrando ar ein Model Rôl Nicola yn siarad am fenter gymdeithasol a Her Dechrau Rhywbeth Da!

Arhoswn yn eiddgar i glywed oddi wrthych. Pob lwc! Os oes gennych unrhyw ymholiadau
cysylltwch â’r tîm: ymholiadau@syniadaumawrcymru.com