Adroddiad Cynaeafu Pantyderi 2020- Hau haidd y gwanwyn gan ddefnyddio cyfradd hadau amrywiol

Ar ôl mapio’r pridd a chreu parthau rheoli o fewn caeau, dewiswyd dau gae nesaf at ei gilydd o’r un maint ac amrywiaeth tebyg o ran math o bridd ar gyfer treialu hadau barlys y gwanwyn - math Kelim – gan eu hau ar gyfradd amrywiol. Heuwyd un cae ar gyfradd sefydlog o 185kg/ha ac yn y llall, lle’r oedd y pridd salaf neu yn rhannau problemus yn y cae, fel mannau troi, heuwyd cyfraddau uwch o hadau yn ôl yr allwedd yn Ffig 1, gyda'r nod o gynyddu cynnyrch cyffredinol y cnwd.  

Ffig 1: Mapiau cyfradd hadau amrywiol ar gyfer y ddau gae treialu sydd nesaf at ei gilydd. Heuwyd y cae ar y dde, Waun Ganol, ar gyfradd amrywiol.

 

Cafodd y ddau gae eu drilio gan yr un contractwr, gyda’r un mewnbynnau rheoli dros yr haf. 

Ar 25 Gorffennaf aethpwyd ati i gyfrif nifer y planhigion ar hyd y ddau gae.

Ffig 2: Lleoliad y planhigion a gafodd eu cyfrif

 

Tabl 1: Cyfrif y planhigion

 

Roedd y planhigion a gafodd eu cyfrif 18% yn uwch ar gyfartaledd yn y cae a heuwyd ar gyfradd amrywiol gyda llai o amrywiad yn cael ei ddangos ar draws y cae nag ar gyfer y cae a heuwyd ar gyfradd sefydlog.   

Dangosodd statws iechyd y cnwd ar adeg cyfrif fod y cae a heuwyd ar gyfradd amrywiol yn dioddef o straen (Ffig 3). Awgrymwyd efallai mai afiechyd neu ddiffyg maetholion oedd yn gyfrifol am hynny.
 

Fig 3: Waun ganol (y cae a heuwyd ar gyfradd amrywiol)

 

Fig 4: Neuadd (y cae a heuwyd ar gyfradd sefydlog)

 

Cynaeafwyd y ddau gae yn yr ail wythnos ym mis Medi ar yr un diwrnod, gyda chynnwys lleithder o 14-15% a chynnyrch grawn a gwellt wedi'i gyflwyno yn Nhabl 2.

 

Waun Ganol -
Cyfradd amrywiol

Neuadd -
Cyfradd sefydlog

Cyfanswm arwynebedd y cae ha

4.7

4.2

Cyfanswm haidd t

25.12

24.7

Haidd t/ha 

5.34

5.88

Byrnau gwellt /ha

15.53

15.95

Tabl 2: Haidd wedi'i gynaeafu a chynnyrch gwellt

 

Nid oedd y ganran uwch a gofnodwyd yn y cae a heuwyd ar gyfradd amrywiol ar ôl cyfrif y planhigion yn cael ei adlewyrchu yn y cnwd ar ôl iddo gael ei gynaeafu, doedd fawr o wahaniaeth rhwng y ddau gae.

O gymharu adroddiad Maetholion Grawn YEN ar gyfer y ddau gae, roedd lefelau ffosffad a photash yn is ar gyfer Waun Ganol (0.3 a 0.42%) o gymharu â Neuadd (0.36 a 0.47%) er nad ydynt yn cael eu hystyried yn rhy isel. Roedd boron a manganîs yn isel yn y ddau gae a'r unig wahaniaeth amlwg oedd bod lefel molybdenwm llawer uwch wedi’i gofnodi ar gyfer sampl grawn Neuadd (gweler adroddiad Maetholion Grawn YEN ar wahân).

Mae bwriad i dreialu eto gyda haidd y gwanwyn yn 2021 a’i gynllunio fel bod cnydau ar gyfradd amrywiol a sefydlog yn cael eu hau yn yr un cae.