Alice Bacon

Clunderwen, Sir Benfro
 

Mae Alice Bacon wedi gwneud cynnydd cyflym ers iddi ddechrau ar yrfa mewn amaethyddiaeth, gyda chytundeb ffermio cyfran bellach i’w henw.

Pan nad yw’n gweithio fel cofnodwr llaeth hunangyflogedig i National Milk Records, mae Alice yn rhedeg buches o foch cynhenid gyda Hugh a Katharine Brookes yn Penlan Heritage Breeds, Cenarth.
 
Mae ei diddordeb mewn gweithio gydag anifeiliaid yn deillio o’i magwraeth ar dyddyn.
Manteisiodd ar y cyfle i fod yn ffermwr cyfran, cyfle a hwyluswyd gan Raglen Ddechrau Ffermio.
 
Mae pob diwrnod bellach yn ddiwrnod ysgol i Alice, sydd yn dysgu sgiliau hwsmonaeth anifeiliaid ymarferol yn y busnes ffermio moch awyr agored, o faeth a bridio i reoli padog a chaeau.
 
Mae hi hefyd wedi cael profiad busnes gwerthfawr yn gweithio o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol fel asesydd NVQ a hefyd fel cydlynydd ardal ar gyfer NMR.
 
Wrth i Alice edrych i’r dyfodol gyda ffermio yn greiddiol iddo, mae’n gweld pwysigrwydd y gallu i arloesi a chynllunio, i gynyddu ei set sgiliau ac i ymchwilio i’r datblygiadau bwyd a ffermio diweddaraf.
 
Bydd cymryd rhan yn y rhaglen Busnes ac Arloesi, meddai, yn ei helpu i gyflawni’r nodau hynny drwy ehangu ei gwybodaeth i’w galluogi i gyfrannu’n well at fusnes Penlan Heritage Breeds, sydd eisoes yn llwyddiannus.

“Rwy’n gobeithio y bydd profiad yr Academi Amaeth yn rhoi’r hyder i mi siarad â gwahanol arbenigwyr, gan gynnwys pan fyddaf yn cwrdd â’n cwsmeriaid a’n cyflenwyr, gan y bydd fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol, wedi’u hategu gan ein contract Mentro, yn golygu y byddaf yn ymgymryd â rôl yn y fenter gyda mwy o ran yn y broses cynllunio busnes.''