Angharad Edwards
New Moat, Sir Benfro
Mae lansio busnes gwerthu llaeth llwyddiannus wedi gwneud Angharad Edwards yn uchelgeisiol ar gyfer twf busnes.
Bu i Angharad, cyn gyfarwyddwr rhaglen Ffermio, sef cyfres ffermio ar S4C a gynhyrchir gan Telesgop, roi’r gorau i’w swydd yn y cyfryngau i ganolbwyntio ar yr arallgyfeirio a lansiodd gyda’i phartner, Roger, ar fferm laeth ei deulu.
Ers sefydlu Llaeth Preseli Milk yn Moat Grange, maent wedi ychwanegu gelato at yr ystod cynnyrch ac am dyfu’r busnes drwy greu siop hufen iâ a siop fferm fechan.
Mae'r uchelgais hwnnw'n ymestyn i, efallai un diwrnod, sefydlu cyfleuster prosesu ar y fferm i ganiatáu i'r hufen iâ gael ei wneud ar yr un safle â ble mae’r mae'r llaeth sy'n cael ei ddefnyddio i wneud yr hufen iâ yn cael ei gynhyrchu gan y fuches o 300 o fuchod Friesian Prydeinig, Montbéliarde a Norwegian Red.
Graddiodd Angharad yn y Gyfraith a'r Gymraeg a chafodd ei magu ym Maenclochog. Mae gan ei rhieni gefndir ffermio ac mae'n disgrifio ei hun fel “merch y wlad”.
Arweiniodd yr angerdd hwnnw dros gefn gwlad a ffermio at sefydlu cangen Sir Benfro o Ferched mewn Amaethyddiaeth. Mae hi hefyd yn weithgar o fewn mudiad y CFfI, gan hyfforddi aelodau ym maes siarad cyhoeddus a chanu.
Mae hi wrth ei bodd ei bod hi wedi ennill lle ar raglen Busnes ac Arloesi 2023.
Ers lansio’r busnes newydd, mae Angharad yn dweud ei bod yn cydnabod gwerth cael mewnbwn arbenigwyr i arwain y broses honno un o’r rhesymau pam y gwnaeth gais am le ar yr Academi Amaeth.