Awgrym mai gor-odro yw un o’r ffactorau mwyaf sy’n effeithio ar iechyd y pwrs/gadair yn y fuches
Mae canlyniadau cychwynnol un o brosiectau EIP yng Nghymru yn awgrymu mai adnabod a chywiro gor-odro a gâi'r effaith fwyaf o ran gwella sut mae’r parlwr godro’n gweithio ac o ran gwella iechyd y pwrs/gadair.
Mae pedwar ffermwr llaeth yn Sir Gaerfyrddin, sydd â maint eu buches yn 260 o wartheg ar gyfartaledd, wedi bod yn gweithio'n agos gyda Dr Sotirios Karvountzis o Filfeddygon Mendip, Llandeilo, i ymchwilio i’r manteision mewn trefn brofi ddeinamig wrth weithio i wella iechyd y gadair drwy leihau lefelau bactoscan a nifer yr achosion o fastitis isglinigol a chlinigol.
Mae profion deinamig yn cael eu gwneud gan eu milfeddyg, Dr Karvountzis, bob dau fis ar bob fferm. Ffordd syml o ddisgrifio profion deinamig yw cymharu prawf peiriant godro â phrawf ar gar. Mae dau fath o brawf car, sef yr MOT a’r prawf ffordd. Yn yr MOT, mae'r cerbyd yn cael ei brofi yn y garej heb deithwyr na llwyth yn y car. Bach iawn yw'r straen ar y cerbyd felly. Mae'r MOT yn sicrhau bod y cerbyd yn cyd-fynd â'r safon sy'n ofynnol er mwyn i'r cerbyd fod yn deilwng o'r ffordd. Ond, gallai prawf ffordd ddangos problemau cudd sydd yno pan gaiff y car ei roi o dan bwysau drwy ei yrru ar amodau go iawn ar y ffordd, neu pan fydd y car yn cario llwyth. Mae profion deinamig yn cyfateb i brawf ffordd, lle rydyn ni’n chwilio am faterion a all niweidio'r fuwch, na fyddai unrhyw fath arall o brawf statig yn y parlwr godro yn eu gweld.
Dyma enghreifftiau o'r newidynnau sy'n cael eu monitro drwy brofion deinamig:
- Cyfrifiad celloedd somatig yn y tanc llaeth
- Bactoscan y tanc llaeth
- Nifer achosion mastitis clinigol
- Defnyddio triniaethau gwrthfiotig ar gyfer mastitis
- Llif llaeth deuwedd
- Gor-odro
- Llif gwael i ffwrdd o’r fuwch
- Ffit y leinin yn wael
- Leinin yn llithro
- Sgoriau’r tethi
- Sut mae’r offer llaeth yn pylsadu
Mae hi hefyd yn bwysig tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng profion deinamig a’r gwaith cynnal-a-chadw arferol sy’n cael ei wneud gan y gweithgynhyrchwyr neu’r ffermwyr.
“Os nad yw'r offer awtomatig i dynnu’r clwstwr oddi ar y tethi (ACR) wedi'i amseru'n gywir, nid yw prawf statig yn profi. Ar ben hynny, er bod rhai parlyrau wedi'u cyfrifiaduro erbyn hyn, nid yw parlwr sydd wedi awtomeiddio’n fwy bob amser yn gallu gwirio i weld a yw’r offer pylsadu’n gweithio'n iawn, er enghraifft, a dyna pam mae'r profion deinamig yn fwy addas at atal problemau ynglŷn ag iechyd y gadair”, meddai’r Dr Karvountzis.
Mae profion deinamig hefyd yn cynnwys archwilio sampl o’r gwartheg ar gyfer unrhyw beth annormal ar flaen y deth, fel unrhyw arwyddion o hyperceratosis.
Mae'r parlwr godro ym mhob un o'r pedair fferm yn cael ei brofi gyda phedwar recordydd VaDia sy'n cofnodi'r gwactod yn ystod y gwaith godro ar bedwar pwynt ar y clwstwr godro. Mae'r tri cyntaf yn cael eu gosod mewn safle sefydlog ar yr uned laeth gyntaf, ganol ac olaf drwy gydol y godro, gan fesur lefelau gwactod y leinins llaeth. Mae'r pedwerydd yn cael ei osod ar y tiwbiau pylsadu, ac mae’n mesur y lefelau gwactod yn y rhain drwy gydol cyfnod godro un fuwch. Ar ôl i’r fuwch honno orffen godro, mae’r pedwerydd recordydd yn cael ei symud i'r uned laeth nesaf ac yn y blaen.
“Un o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at broblemau iechyd yn y gadair sydd wedi’i amlygu drwy’r prosiect hyd yn hyn yw gor-odro”, meddai’r Dr Karvountzis.
Mae gor-odro’n digwydd pan fydd yr unedau godro (ac felly gwactod) ar gadair y fuwch am fwy o amser nag sy'n ofynnol. Yn ystod cyfnod o or-odro mae'r peiriant yn godro ar wactod llawn gyda llif llaeth isel neu ddim llif llaeth. Y prif achosion y tu ôl i hyn yw pan fydd yr ACR wedi’i osod i dynnu’r unedau llaeth ar lif llaeth rhy isel (e.e. 200ml y funud), neu pan fo’r oedi cyn tynnu'r unedau llaeth oddi ar y gadair a thorri'r gwactod oddi ar y leinins llaeth wedi'i osod yn rhy uchel (e.e. dros 10 eiliad).
Mae gwaith i baratoi'r fuwch cyn godro hefyd wedi’i nodi fel maes lle mae profion deinamig wedi arwain at effeithlonrwydd yn yr adnoddau ac at fwy o gynhyrchiant. Mae hyn yn gysylltiedig â ffisioleg gwartheg wrth ollwng eu llaeth.
“Mae ar y fuwch angen i’r deth gael eu symbylu naill ai drwy ei dipio ymlaen llaw, stripio’i blaen neu lanhau'r deth neu sŵn y dwysfwyd yn taro'r biniau porthiant, wrth iddi ddod i'r parlwr. Mae'r symbyliad hwn yn arwain at ryddhau ocsytocin ac felly mae'r llaeth yn cael ei ollwng. Mae’r paratoi cyn godro ac amseru’r paratoadau yn bwysig iawn oherwydd os nad yw’r amser rhwng paratoi’r tethi a gosod yr uned yn cyd-fynd â gollwng y llaeth, bydd llif y llaeth yn dod i ben dros dro, sy’n cael ei adnabod fel gollyngiad deufodd”, meddai’r Dr Karvountzis.
“Drwy symbylu’r fuwch yn iawn, mae modd osgoi cael gwactod diangen ar flaen y tethi a bydd llai o drawma’n cael ei achosi i flaen y tethi, gan wella iechyd y gadair. Mae symbyliad digonol cyn godro yn sicrhau bod yr uned ar ei gorau yn brydlon ac felly'n lleihau'r amser sy’n cael ei gymryd i odro pob buwch, gan arwain at arbedion effeithlonrwydd yn yr adnoddau,” meddai.
Huw Morgan, sy'n ffermio gyda'i rieni, yw un o'r pedwar ffermwr sy'n rhan o’r prosiect.
“Rydw i’n ffermio Fferm y Twyn, Nantgaredig ar bwys Caerfyrddin gyda fy rhieni. Mae’n fferm 93Ha ac mae gyda ni fuches gyfnewid o 160 sy’n lloia yn y gwanwyn. Dyma’r wythfed tymor llaetha i ni, gan ein bod ni’n cadw bîff a defaid yn y gorffennol”, meddai Huw.
“Y cam nesa yw cynyddu nifer y gwartheg i 200 a gwella’n cyfleusterau ni. Roedden ni am gymryd rhan yn y prosiect achos ein bod ni’n system sydd ag allbwn isel a mewnbwn isel ac felly mae sicrhau cymaint â phosibl o elw o'r gwartheg yn bwysig ac roedden ni’n gweld y prosiect fel cyfle i fireinio'r system a chyfle da i sicrhau buchod iachach sy'n golygu defnyddio llai o foddion gwrthfiotig sy'n bwysig i bawb. Cadair iachach, llaeth iachach, buwch iachach, balans banc iachach.”
Mae gwella iechyd a lles anifeiliaid yn allweddol ar gyfer gwella sut mae’r defnyddwyr yn gweld y diwydiant ac adeiladu ar y ffaith bod gan y Deyrnas Unedig rai o'r safonau lles anifeiliaid uchaf yn y byd. Bydd gostwng defnydd gwrthfiotigau sy'n gysylltiedig ag iechyd y gadair nid yn unig yn lleihau gryn dipyn ar gostau milfeddygol a meddyginiaethau ond bydd hefyd yn lleihau'r siawns y bydd ymwrthedd i wrthfiotigau yn datblygu o ran cyffuriau pwysig sy’n cael eu defnyddio ar y fferm.