David Selwyn, Landsker

Ymunodd David â Landsker Business Solutions Ltd yn 2006. Gyda chymysgedd o wybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad busnes go iawn, mae wedi gallu cynnig cymorth ymgynghoriaeth effeithiol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i nifer o ddiwydiannau a disgyblaethau. Mae hyn wedi arwain at greu a diogelu swyddi, gwella isadeiledd, cynyddu refeniw a/neu broffidioldeb, ennill cyllid cyhoeddus, preifat a chyllid gan elusennau, a gwneud gwelliannau strategol a gweithredol.

Mae David yn frwd dros ddatblygu cynlluniau realistig i gynorthwyo busnesau i ddatblygu ac yna helpu i droi'r cynlluniau hyn yn brosiectau diriaethol sy'n helpu i lywio proffidioldeb y busnes a sicrhau cynaliadwyedd y busnes.

Mae Landsker yn falch iawn eu bod yn ariannu partneriaid gyda Banc Datblygu Cymru mewn perthynas â'u Cronfa Gymdeithasol.