Ioan Humpheries, @that_welsh_farmer

Efallai y byddwch chi’n adnabod Ioan o’i fideos ar-lein ar realiti'r byd amaeth yng Nghymru, gyda llawer ohonyn nhw wedi cymryd y rhyngrwyd yn ddirybudd.

Mae Ioan wedi bod yn rheoli fferm fynydd ac ucheldir ei deulu ers 2013. Mae’r fferm 500 erw wedi bod yn y teulu ers 1903, a bellach mae ganddo 850 o famogiaid (Mynydd Cymreig, Penfrith Cymreig, Texel, Suffolk a Miwl Cymreig), 20 o wartheg (Henffordd , buchod sugno Angus a British Blue gyda tharw Limousin pur) ac yn fwy diweddar, mae Ioan wedi dod yn ffermwyr sy'n cadw dofednod ac wedi ychwanegu 32,000 o ieir i’r fferm yn 2019.

Yn ogystal, mae'r fferm hefyd wedi ychwanegu busnes gwyliau bach o dri chaban pren ar y fferm.

Ffocws parhaus Ioan yw helpu i addysgu’r genedl ynghylch pam mae amaethyddiaeth ym Mhrydain mor bwysig.