Pam byddai Chris yn fentor effeithiol

  • Mae Chris wedi bod yn gysylltiedig â’r diwydiant amaethyddol gydol ei oes. Yn ogystal â helpu ar ei fferm deuluol, fe wnaeth hefyd ddechrau gweithio mewn busnes pigo eich ffrwythau eich hun yn 1999 yn ystod gwyliau’r haf cyn cael gwaith amser llawn yno ar ôl graddio yn 2008. Ers 2012, datblygodd o’r rôl rheolwr cynorthwyol i berchennog y fferm. Treuliodd Chris hefyd 4 mis yn gweithio ar fferm laeth yn Seland Newydd yn 2005 lle gwelodd lawer o wahanol arferion ffermio. 
  • Bu Chris yn rhan o’r gwaith o ddatblygu safle treulio anaerobig ar fferm ei deulu oherwydd problemau â’r fuches laeth, fel yr aroglau a geid o’r tail gwartheg. Yn 2010, penderfynasant fwrw ymlaen â’r prosiect a dechrau ymchwilio i systemau addas. Aeth hyn â nhw ar sawl ymweliad i’r Almaen ac i siarad â ffermwyr yn yr Unol Daleithiau a oedd yn rhedeg safleoedd tebyg. Chris oedd yn rheoli’r prosiect, ac felly ef wnaeth benodi’r cwmni i osod y bio-dreuliwr a’r band eang microdon, ef hefyd oedd yn cysylltu â’r swyddogion cynllunio ac ag asiantaeth yr amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru bellach. Saith mlynedd yn ddiweddarach, mae Chris yn dal i fod yn gyfrifol am y safle ac mae wedi cynrychioli’r Gymdeithas Treulio Anaerobig a Bioadnoddau yn San Steffan yn lobïo ASau i geisio cael gwell dealltwriaeth o’r diwydiant ac o gymhlethdodau system dreulio ar y fferm. Roedd hefyd yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o osod bwyler biomas 1MW ar y fferm, sy’n cael ei ddefnyddio i sychu deunydd gorwedd i’r buchod.
  • Mae Chris wedi croesawu dros 200 o ymwelwyr i’w fferm, o aelodau’r CFfI i swyddogion y llywodraeth, a gall roi arweiniad i ffermwyr sydd eisiau deall y broses AD yn well a’r hyn sydd ganddi i’w gynnig. Mae Chris yn gyfathrebwr gwych, ac mae’n awyddus i rannu ei wybodaeth a’i brofiad i helpu eraill yn y diwydiant.

Busnes fferm presennol

  • Nifer o erwau
  • Buches odro fawr
  • Ŵyn stôr yn cael eu pesgi bob blwyddyn
  • Safle treulio anaerobig
  • Bwyler biomas
  • Systemau PV

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad

  • 2008: BSc mewn Cemeg, Prifysgol Reading
  • 2012: Aelod o Raglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth, Cyswllt Ffermio
  • 2018: Cydlynydd Cows on Tour
  • 2019-2020: Cadeirydd Ffermwyr Dyfodol Cymru
  • 2007 i 2019: Prif Stiward, RWAS

Awgrymiadau ar sut i lwyddo mewn busnes:

1. “Cyfathrebwch â’r bobl o’ch cwmpas i sicrhau bod pawb yn hawlio perchnogaeth dros y busnes.”

2. “Ewch allan i ymweld â chynifer o systemau â phosibl mewn unrhyw brosiect
oherwydd mi fyddai pawb yn gwneud rhywbeth yn wahanol yr eildro.”

3. “Dysgwch i fyfyrio ar yr holl weithgareddau a gyflawnwch oherwydd bydd hynny’n gwneud y broses yn gyflymach ac yn fwy effeithlon y tro nesaf.”