Pam fyddai David yn fentor effeithiol

  • Mae David wedi bod yn ffermio yn nyffryn Teifi ers 25 mlynedd. Mae ei yrfa amaethyddol yn cynnwys llaeth adwerthu, gwerthu ar y fferm, cynhyrchu moch dwys ac yn fwy diweddar cynhyrchu llaeth organig.
  • Ar ôl cychwyn ar fân-ddaliad cyngor sir, mae David hefyd wedi ffermio dramor gan gynnwys Minnesota, Fflorida a Chaliffornia yn America lle bu’n gweithio ar ffermydd magu bîff, magu moch a chnydau cymysg. Roedd y ffermydd cnydau cymysg yn cynnwys gwenith, ffa soia, india corn, corn melys, reis a betys. Bu’n gweithio ar ddwy fferm yn yr Iseldiroedd hefyd yn godro buchod i gynhyrchu caws a hefyd yn ffermio moch yn ddwys.
  • Yn 2018 ymunodd David â rhaglen Mentro Cyswllt Ffermio ac fe’i parwyd â newydd-ddyfodiad i ffermio. Erbyn hyn maent wedi bod yn ffermio mewn partneriaeth ers 9 mis, yn rhedeg busnes proffidiol yn godro 110 o wartheg y dydd. Roedd David yn cadw diadell o 80 o famogiaid Llŷn hefyd, gyda’i ddiweddar wraig. Mae ganddo brofiad hefyd o gynhyrchu wyau buarth a gwerthu ar ochr y ffordd.
  • Gall David gynnig cyfarwyddyd i newydd-ddyfodiaid, gan ddefnyddio ei brofiad personol amrywiol i helpu’r rhai sy’n dechrau arni yn y diwydiant.
  • Erbyn hyn mae David yn gweithio ar roi cefnogaeth iechyd meddwl yn y gymuned amaethyddol a’r gymuned ehangach ac felly mae’n deall yr effeithiau y gall eu cael ar ffermwyr a’u teuluoedd.

Busnes fferm presennol

  • Fferm laeth organig 160 erw sydd ar rent
  • 110 o wartheg llaeth, 80 o heffrod llaeth a 30 o loeau stôr/sugno

Cymwysterau / llwyddiannau / profiad

  • 1978 – 1980: OND mewn Amaethyddiaeth, Coleg Walford, Swydd Amwythig
  • 1978 – 1980: Tystysgrif Genedlaethol mewn Rheoli Busnes Fferm, Coleg Walford Swydd Amwythig
  • 1980 – 1981: Cynhyrchu Llaeth ac AI, Prifysgol Minnesota, UDA

AWGRYMIADAU DA AM LWYDDIANT MEWN BUSNES

“Ymchwil ar y rhyngrwyd ac ymweld â ffermydd eraill.”

“Ceisiwch gyngor gan bobl brofiadol.”

“Byddwch yn benderfynol, ond byddwch yn barod i addasu!”