Pam fyddai David yn fentor effeithiol

  • Yn dilyn dirwyn partneriaeth deuluol i ben, aeth swm mawr o gyfalaf allan o’r busnes. Dros y blynyddoedd wedyn profodd David a’i bartner Carol amseroedd anodd iawn yn ariannol, ond fe wnaethant ddysgu llawer o sgiliau busnes gwerthfawr fel llunio cyllideb a monitro llif arian wrth iddyn nhw droi eu busnes ffermio yn un â phwyslais ar elw a chynaladwyedd
  • Fe wnaethon nhw symud o system loea trwy’r flwyddyn yn cael eu porthi ar ddogn cymysg cyflawn at fuches a gedwir ar laswellt yn lloea yn y gwanwyn, sydd yn awr yn cael eu godro unwaith y dydd
  • Aeth David i ddosbarthiadau nos i ddeall sut i ddefnyddio taenlenni ar gyfer llunio cyllideb a chadw golwg ar lif arian, yn ogystal â dysgu sut i ddefnyddio system gyfrifon Sage
  • Byddant yn mynychu dyddiau agored a chynadleddau yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn gyson i ddysgu sut i wella’r busnes
  • Ar y fferm maent yn meincnodi eu busnes pryd bynnag y bydd hynny’n bosib. Gan ddefnyddio’r llyfryn Arolwg Busnesau Fferm Cymru a gyhoeddir gan Brifysgol Aberystwyth fel canllaw, maen nhw’n sefyll yn gyfforddus yn y 25% uchaf o ffermydd llaeth yng Nghymru o ran proffidioldeb i bob hectar
  • Mae David yn credu yn angerddol yng ngwerth grwpiau trafod i drosglwyddo gwybodaeth rhwng ffermwyr ac annog y genhedlaeth nesaf i’r diwydiant i osgoi camgymeriadau’r gorffennol, fel eu bod yn gallu rhedeg busnesau proffidiol a chynaliadwy
  • Ar gyngor Arla UK mae David yn cymysgu gyda llawer o ffermwyr llaeth o bob rhan o’r Deyrnas Unedig sy’n gweithredu systemau gwahanol i’r un y mae’n ei defnyddio, ac felly yn ogystal â dealltwriaeth well na’r cyffredin o’r diwydiant llaeth byd-eang, mae’n gwerthfawrogi systemau eraill a’u problemau a’u manteision
  • Mae David yn ei ystyried ei hun yn lwcus o fod yn rhan o’r diwydiant llaeth ac mae’n gweld y rôl hon fel mentor yn gyfle i roi rhywbeth yn ôl 

Busnes fferm presennol

  • Fferm 120 hectar ar rent am dair cenhedlaeth, 80 hectar yn cael eu defnyddio i’r fuches odro bori, 40 hectar dair milltir i ffwrdd i fagu stoc ifanc, teirw stoc a dyma’r prif dir silwair
  • Buches o 300 o fuchod croesiad Jersey Friesian, yn lloea yn y gwanwyn. Godro unwaith y dydd ar system laswellt
  • 150 o stoc ifanc cyfnewid a theirw stoc yn cael eu magu ar y fferm 

Cymwysterau/ cyraeddiadau/ profiad

  • HND Amaethyddiaeth, Coleg Amaeth Cymru, Aberystwyth 1979-1982
  • Un o aelodau cyntaf a chydlynydd y grŵp trafod Grazing Gogs
  • Cynrychiolydd y ffermwyr ar gyngor Arla UK

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Gwybod i ble yr wyt ti am fynd a chynllunio dy lwybr i gyrraedd yno.”

“Arian yw’r brenin mewn busnes”.

“Canolbwyntio ar elw o gyfalaf i weld twf ecwiti.”