Pam fyddai Haydn yn fentor effeithiol
- Fe gychwynnodd Haydn o’r dechrau’n deg 20 mlynedd yn ôl, pan brynnodd ei fferm ei hun a gwartheg ar ôl gyrfa yn y sector bancio, felly mae ganddo gydymdeimlad mawr â newydd-ddyfodiaid. Gwelai Haydn fod ganddynt ddigonedd o frwdfrydedd bob amser, ond y mae’n gweld mai nhw sydd angen mwyaf o arweiniad i sicrhau bod disgyblaeth ariannol yn y busnes i’w wneud yn fwy cadarn
- Fe wnaeth Haydn a’i wraig ddod â’u mab yn bennaeth ar y busnes yn 2015, ar ôl iddo raddio yn llwyddiannus gydag MSc mewn Amaethyddiaeth. Roedd hynny’n gyfle da i ddysgu, ond credai fod pwysigrwydd mewn edrych tua’r dyfodol
- Trwy ei waith fel rheolwr banc cafodd sgil allweddol mewn cyfrifo ariannol, rheoli cyllideb a dadansoddi llif arian – yr adnoddau sylfaenol ar gyfer busnes llwyddiannus. Yn ogystal â chynnig help ariannol ymarferol, gall Haydn hefyd gynnig dehongliad ffermwr, sydd yn ystyrlon i bobl nad oes ganddyn nhw’r sgiliau busnes o bosib
- Ar hyn o bryd mae Haydn yn arwain grŵp o 10 fferm deuluol sy’n cyflenwi Rachel’s Dairy ac yn weithredol mewn meysydd allweddol sef caffael, marchnata a phrisio llaeth gan weithio ar y cyd â’r llaethdy. Rhoddodd y profiad ymarferol o faterion yn ymwneud â chyntundebau brofiad da i Haydn o drafodaethau ac mae’n gallu canfod cryfderau a gwendidau contractau
- Mae Haydn yn gredwr cryf yng ngwerth priddoedd. Maent yn profi’r pridd yn flynyddol ac yn cadw cofnodion cywir, ac mae cynhyrchiant eu glaswellt yn adlewyrchu’r ymdrech maent yn ei roi i’r gwaith. Bydd y priddoedd yn talu yn ôl hefyd oherwydd yr hyn sy’n codi ohonynt sy’n bwysig! Maent yn tyfu llawer iawn o’u porthiant eu hunain ac yn ceisio cael y cynhyrchiant mwyaf posibl ar eu protein eu hunain oddi ar y fferm
- Credai Haydn y gall ei brofiad helpu i greu busnes proffidiol a llwyddiannus yn y diwydiant llaeth
Busnes fferm presennol
- Fferm laeth organig 97 hectar wedi ei rhannu yn ddwy uned – yn berchen ar 34 hectar, 63 hectar ar rent. Mae’r fuches odro ar un fferm, a’r llall yn cael ei defnyddio fel uned i fagu’r stoc ifanc
- 100 o fuchod Friesian Prydeinig a 70 o stoc ifanc a dau darw stoc – Friesian Prydeinig a Henffordd. Y buchod yn mynd allan yn gynnar ar rêp a maip ac ati felly maent yn cael eu protein yn y modd hwnnw
- Tir ar gylchdro - maip sofl, gwenith, ceirch, pum mlynedd o laswellt
- Buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy gyda thyrbin gwynt ar y fferm
Cymwysterau/ cyraeddiadau/ profiad
- Mentor dan y Cynllun Cefnogi Newydd-ddyfodiaid am bum mlynedd
- Astudiaethau ariannol, gradd Sefydliad y Bancwyr
- Rheolwr banc i un o brif fanciau’r stryd fawr
- Aelod o’r Tribiwnlys Tir Amaethyddol
- Cadeirydd Bwrdd Ffermwyr a Thyfwyr Cymdeithas y Pridd
- Gweithio gyda grŵp deialog sifil llaeth y Comisiwn Ewropeaidd
AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES
“Y peth pwysicaf y gallwch ei wneud wrth gychwyn arni yw gwneud yn siŵr eich bod yn meddwl yn ofalus beth yr ydych am ei wneud. Hefyd, gofynnwch am help i herio eich ffordd o feddwl i sicrhau bod y syniad sydd gennych yn ddigon cadarn i sefyll ym myd modern, masnachol amaethyddiaeth.”
“Mae brwdfrydedd yn allweddol, ond nid yw’n gwarantu llwyddiant chwaith. Lluniwch gynllun busnes ar gyfer yr hyn yr ydych am ei gyflawni, gofynnwch i rywun ei herio a byddwch yn cyrraedd yn y pen draw. Harneisiwch yr ynni hefyd, os ydych chi’n frwd ac yn barod i weithio’n galed i wneud i’ch busnes lwyddo, yna fe fyddwch chi.”