Pam fyddai Rhys yn fentor effeithiol

  • Wedi cwblhau cwrs Diploma Cenedlaethol yng Ngholeg Amaeth Aberystwyth, gweithiodd Rhys fel gofalwr buches ar fferm yn Ninbych, cyn mynd i weithio yn Seland Newydd lle cafodd gyfle i ddysgu am ffermio cyfran
  • Yn 2004, dechreuodd Rhys odro cyfran ym Mhen Llŷn. Dros y 12 mlynedd diwethaf mae wedi datblygu busnes sydd erbyn hyn yn godro 1,150 o wartheg ar system lloea yn y gwanwyn, ac mae’n berchen ar 910 o wartheg ei hun
  • Mae Rhys yn cydnabod bod yr ychydig flynyddoedd a dreuliodd yn Seland Newydd wedi cael dylanwad helaeth ar ei yrfa ffermio a’i fywyd personol. Mae’n dweud ei fod wedi gweld system a ffordd o fyw a oedd yn galluogi pobl i gyflawni eu nodau, cyn belled â’u bod yn barod i weithio’n ddigon caled ac i gyfaddawdu
  • Yn ystod ei gyfnod fel Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio, cynhaliodd Rhys nifer o ddigwyddiadau ar ei fferm a oedd, yn ei farn ef, yn fuddiol iawn, yn enwedig yr un yn canolbwyntio ar roi rhaglen ar waith i reoli afiechyd Johnes
  • Mae Rhys yn agored iawn i syniadau newydd, ac nid yw’n ofni rhoi’r syniadau hynny ar waith. Wrth redeg busnes mawr, mae’n dibynnu’n helaeth ar sgiliau’r tîm y mae’n cydweithio â hwy er mwyn rheoli’r ffermydd. Mae’n teimlo bod sgiliau cyfathrebu yn hanfodol, ond mae rhywbeth i’w ddysgu gan eraill bob amser ynglŷn â sut i’w gwella

Busnes fferm presennol

 

  • Tirfeddiannwr a mentrau ffermio cyfran, yn berchen ar 200 erw ac yn rhentu 1,400 fel rhan o fentrau ffermio cyfran
  • Tair uned laeth, gyda 300, 500 a 360 o fuchod, yn lloea mewn bloc yn y gwanwyn

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

  • Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio 2013-2015
  • Aelod o grwpiau trafod Grazing Gogs a Grasshopper
  • Ysgolhaig Nuffield 2010, ar y pwnc ‘Creu cyfoeth mewn ffermio llaeth’

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Credwch ynddo chi’ch hun a’r hyn yr ydych yn ei wneud.”

“Byddwch yn barod i weithio’n galed, a pheidiwch â rhoi’r ffidil yn y to.”