Enw: Sara Pedersen MRCVS

Symudol: 07545 431800

E-bost: sara.pedersen@agrisgop.cymru

Lleoliad: Bro Morgannwg/Yn gweithredu ledled De Cymru 

Arbenigedd(au):  Iechyd a lles gwartheg gyda ffocws ar gysur buchod a symudedd gwartheg

  • Prif ffocws Sara Pedersen, llawfeddyg milfeddygol ac Arbenigwr Cydnabyddedig RCVS mewn Iechyd a Chynhyrchiant Gwartheg, yw darparu atebion cynaliadwy, cost-effeithiol i wella iechyd a lles anifeiliaid, yn seiliedig ar ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth a dadansoddiad cost a budd. Mae sylfaen cleientiaid amrywiol Sara yn cynnwys busnesau fferm unigol, cwmnïau maeth a fferyllol a chyrff cenedlaethol gan gynnwys AHDB a Cyswllt Ffermio.  
  • Yn filfeddyg, hyfforddwr ac ymchwilydd hynod brofiadol, mae Sara wedi ymgymryd â nifer o brosiectau ar gyfer Cyswllt Ffermio ac AHDB (Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth) gan gynnwys datblygu a chyflwyno cyrsiau Meistr ar Gloffni a chydlynu prosiectau cloffni ar nifer o safleoedd arddangos. 
  • Mae Sara wedi cael gyrfa hirsefydlog ym maes iechyd anifeiliaid a phynciau cysylltiedig, gan weithio'n uniongyrchol gyda ffermwyr, sefydliadau iechyd anifeiliaid a'r byd academaidd.  Mae’n gweithio yn ei busnes ym Mro Morgannwg – Farm Dynamics – sy’n darparu gwasanaeth ymgynghori cenedlaethol a rhyngwladol i fusnesau amaeth ac yn darparu rhaglenni addysgol i ffermwyr a milfeddygon.  
  • Yn gyfathrebwr hyderus a hamddenol, mae ei phrofiad, gwybodaeth a sgiliau sylweddol wedi dod â hi i gysylltiad uniongyrchol â nifer enfawr o unigolion a sefydliadau, gan roi mynediad iddi at rwydwaith eang o arbenigwyr.   Arweiniodd un o’i rolau mwy diweddar gyda Cyswllt Ffermio at reoli prosiect a arweiniwyd gan y ffermwr ac a ariannwyd gan EIP ar symudedd a chloffni mewn gwartheg – pwnc y mae’n edrych ymlaen at fynd i’r afael ag ef yn ei rôl newydd fel arweinydd Agrisgôp.    
  • Mae Sara wedi cyflwyno nifer o gyrsiau, gweithdai a chyflwyniadau cynadledda ar gyfer Cyswllt Ffermio, y British Cattle Veterinary Association, y Cattle Hoof Care Standards Board ac AHDB.  Mae hi hefyd yn ymwneud â hyfforddiant ar gyfer achredu hyfforddwyr milfeddygol a thrimio traed ar gyfer y rhaglen o gyrsiau trimio traed a gymeradwyir gan Lantra ac a ddarperir gan BCVA/CHCSB, yn ogystal â bod yn rhan o nifer o dreialon clinigol.  

Profiad/sgiliau/cymwysterau perthnasol

  • Arbenigwr Cydnabyddedig RCVS mewn Iechyd a Chynhyrchiant Gwartheg (Mawrth 2015 - presennol) 
  • PhD rhan-amser gyda Phrifysgol Nottingham (2017 - presennol) ar gyfer prosiect ymchwil a ariennir gan AHDB sy’n asesu techneg trimio traed mewn gwartheg godro 
  • Diploma RCVS mewn Atgynhyrchu Buchol (2010-2012) Prifysgol Lerpwl 
  • Tystysgrif RCVS mewn Iechyd a Chynhyrchiant Gwartheg (2009)
  • Baglor mewn Meddygaeth Filfeddygol o’r Coleg Milfeddygol Brenhinol, Prifysgol Llundain (1999-2005)
  • Baglor mewn Gwyddoniaeth (Anrhydedd) mewn Sŵoleg 2002 (2:1), Prifysgol Bryste (2001-2002)

Rolau ychwanegol

  • Aelod o Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru Llywodraeth Cymru ers mis Mehefin 2021 
  • Aelod o’r Grŵp Llywio Symudedd Gwartheg Llaeth ers 2018 
  • Cyd-Ysgrifennydd Anrhydeddus y British Cattle Veterinary Association (BCVA) ers 2016 (arweinydd addysg)

Swyddi academaidd presennol

  • Darlithydd Gwadd, Prifysgol Aberystwyth (ers 2022). 
  • Arholwr Tystysgrif mewn Arfer Milfeddygol Uwch (Fferm). 
  • Rolau hyfforddi ychwanegol
  • Hyfforddwr ar gyfer Cyrsiau Trimio Traed a Gymeradwyir gan Lantra ac a ddarperir gan BCVA/CHCSB (ers 2022) 
  • Hyfforddwr Mentor Symudedd Rhaglen Traed Iach AHDB (ers Gorffennaf 2020)
  • Hyfforddwr Cymeradwy Cofrestr Sgorwyr Symudedd (ers Ebrill 2020) 
  • Hyfforddwr Gwobrau Lantra trwy fynychu cwrs 'Hyfforddi'r Hyfforddwr' (Rhagfyr 2014)