Sion Evans

Enw: Sion Evans

E-bost: sion.evans@agrisgop.cymru  

Symudol:  07988 482613 

Lleoliad:  Ceredigion/Sir Gaerfyrddin 

Arbenigedd(au):  Bîff, Defaid, Llaeth, Garddwriaeth, Rheoli Pridd a Glaswelltir

  • Mae Sion Evans, sy’n raddedig amaethyddiaeth, yn ffermwr cenhedlaeth gyntaf ger Llanbedr Pont Steffan lle mae'n cadw defaid a gwartheg bîff ar ddaliad 220 erw. Gyda mwy na 26 mlynedd yn gweithio yn y diwydiant cymorth i ffermwyr - i raddau helaeth ar gyfer Cyswllt Ffermio - mae ganddo lawer iawn o brofiad, gwybodaeth a sgiliau, yn ogystal â rhwydwaith eithriadol o gryf o gysylltiadau ac arbenigwyr.  Ychwanegwch at hynny’r cyrsiau rheoli busnes niferus y mae Sion wedi'u gwneud ar gyfer ei ddatblygiad personol ei hun, a chewch wybod yn union beth allai gynnig i grŵp Agrisgôp yn ei rôl ddiweddaraf fel arweinydd! 
  • Gyda meddwl ymarferol a sgiliau trefnu rhagorol, mae Sion wedi bod yn rhan o'r rhaglen Cyswllt Ffermio ers 2002.  Ers 2011, mae wedi bod yn rheolwr rhanbarthol Cyswllt Ffermio ar gyfer De-orllewin Cymru.  Yn ogystal â'r rôl hon, ef yw 'rheolwr amaethyddiaeth' y rhaglen, sy'n gweithio ochr yn ochr ag arbenigwyr technegol a staff eraill i helpu i sicrhau bod strategaeth amaethyddol gyffredinol y rhaglen yn darparu'r gwasanaethau cymorth, y canllawiau a'r digwyddiadau sydd eu hangen ar ffermwyr i redeg busnesau cynaliadwy, hyfyw.  
  • Yn gynt yn swyddog gwyddonol yn ADAS Pwllpeirian, mae Sion yn parhau i gael y newyddion diweddaraf o ystod eang o brosiectau ymchwil Cymru gyfan. Mae ei ddiddordebau a'i wybodaeth yn amrywio o samplu pridd a phathogenau tail i arolygon llysiau a chnydau, plâu ac iechyd anifeiliaid a nifer o bynciau eraill — llawer ohonynt yn sail prosiectau a threialon yn rhwydwaith Cymru gyfan o safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio. 
  • Mae Sion yn gynigydd brwd o ffermwyr a thyfwyr gyda phob un yn chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn wynebu pwysau economaidd presennol trwy gyflwyno ffyrdd arloesol, mwy effeithiol o reoli tir yn gynaliadwy a fydd o fudd i'r amgylchedd tra'n arwain at fwy o effeithlonrwydd a phroffidioldeb hefyd.  
  • Yn siaradwr Cymraeg rhugl a chyfathrebwr hyderus, mae Sion yn enwog am ei ymagwedd 'ddi-lol', ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio gyda ffermwyr ar lawr gwlad, gan gynllunio, trefnu a chymryd yr awenau mewn llawer o ddigwyddiadau i ffermwyr ac ar gyfer prosiectau arbenigol.  
  • Mae Sion yn edrych ymlaen at ei rôl ddiweddaraf fel arweinydd Agrisgôp a bydd yn rhoi'r hyder a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i aelodau ei grŵp i weithio ar y cyd i ddatblygu syniadau busnes neu fentrau arallgyfeirio newydd.   Disgwyliwch atebion i'ch cwestiynau, atebion i'ch heriau — ac os nad oes ganddo’r wybodaeth angenrheidiol ei hun — bydd heb os nac oni bai yn adnabod rhywun sydd â hi! 

Busnes fferm presennol 

  • 500 o famogiaid magu
  • 30 o wartheg stôr (bîff llaeth) a 10 o wartheg sugno

Profiad/sgiliau/cymwysterau perthnasol

  • BSc (Anrh) mewn Amaethyddiaeth, Prifysgol Aberystwyth 1996
  • HND Amaethyddiaeth, Coleg Amaethyddol Cymru 1992-1995
  • Enillydd Ysgoloriaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 1995
  • Wedi mynychu nifer o gyrsiau hyfforddi ar bynciau gan gynnwys rheoli busnes ac ariannol, sgiliau ysgogol ac arwain, marchnata a chwnsela busnes. 
  • Hwylusydd 'dysgu gweithredol' hyfforddedig
  • Aelod o'r panel asesu ar gyfer ceisiadau EIP
  • Sgiliau TG ardderchog (wedi datblygu meddalwedd Mesur i Reoli yn 2018) 
  • Yn gyfrifol am y cysyniad o Rhagori ar Bori, Map Tymheredd Pridd, FCTV a llawer o brosiectau Cyswllt Ffermio llwyddiannus eraill.