Proffil Darparwr
(amlinelliad o’r cyfle sy’n cael ei ddarparu)
Cwblhewch y ffurflen yma er mwyn ymgeisio am y cyfle heddiw: Ymgeisiwch heddiw am y cyfle
Rhif Cyfeirnod Dechrau Ffermio: 108
Ynglŷn â pherchennog y tir
Mae'r darparwr yn bwriadu lleihau'r oriau a weithir, er y byddai'n hapus i helpu gyda rhywfaint o waith. Byddai’n teimlo’n hapus i adael i rywun arall ofalu am yr uned laeth a chymryd sedd gefn ei hun. Byddai'r darparwr ar gael i roi unrhyw help a chyngor, gwirio pethau pe bai angen, help gydag archebu a phrisio a gwirio anfonebau. Byddai gwraig y darparwr yn gweithio gyda’r cyflogau, TAW, symudiadau pasbort, taliadau BACS ac ati.
Ynglŷn â’r Ffem
Lleoliad (tref agosaf): Caer
Arwynebedd tir sydd ar gael: Tua 700 erw yn cael ei ffermio, sy’n gymysgedd o dir ei hunan, tir wedi rhentu a pheth mewn cytundeb fferm gontract lle mai'r darparwr yw'r contractwr. Mae peth o'r tir i ffwrdd o'r uned laeth ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer stoc ifanc, silwair a rhai grawnfwydydd. Mae’r llwyfan pori yn 150 erw o silt llifwaddodol sy’n draenio’n rhwydd, a fel arfer mae’r buwchod yn cael eu troi allan ym mis Chwefror.
Isadeiledd sydd ar gael h.y adeiladau, cyfleusterau trin a thrafod: Parlwr herringbone 30/30 gyda ID auto, clwster sy’n fflysio a giât shedding. Mae 267 ciwbicl ar gael ar gyfer y gwartheg sy’n godro, a 80 ciwbicl ar gyfer y bwuchod sych a’r heffrod. Mae gan y ciwbiclau scrapers awtomatig, matiau a naddio ar gyfer y gwely. Mae hefyd iard wellt ar gyfer lloia buchod yn yr uned laeth. Yn y lleoliad arall, mae sied 170 ciwbicl yn cael ei rhentu ynghyd â lagŵn slyri.
Da byw sydd ar gael: Buches laeth organig o 250 o wartheg, yn cyflenwi llaeth i Calon Wen.
Peiriannau sydd ar gael: Mae 4 tractor ar gael, gydag 1 ar gyfer scrapio ac 1 ar gyfer y wagen gymysgu. Mae yna hefyd 2 driniwr JCB ar gael ar y fferm.
Llety ar gyfer y Ceisiwr: Nid oes llety’n cael ei ddarparu gyda’r cyfle, ond ni fyddai’n anodd dod o hyd i dŷ yn yr ardal leol.
Ynglŷn â’r Cyfle
Math o gytundeb sy’n cael ei ystyried: Agored i drafodaeth