Pam fyddai Alan yn fentor effeithiol?

  • Cymerodd Alan y fferm deuluol a’r fuches o 50 o wartheg godro drosodd yn 1991. Yn 2004, penderfynodd arallgyfeirio i gynhyrchu bîff a defaid organic. Golyga hyn fod Alan yn medru parhau i reoli’r fferm yn ogystal â gweithio mewn hufenfa leol
  • Yn 2017, dechreuodd Alan odro defaid Llŷn a Friesland. Caiff y llaeth ei brosesu’n lleol ac yna’i ddefnyddio i wneud caws, iogwrt a hufen iâ. Mae’r galw cynyddol am gynnyrch llaeth defaid yn golygu bod Alan eisoes yn bwriadu cynyddu niferoedd y ddiadell yn ogystal ag adeiladu llaethdy i brosesu’r llaeth ar y fferm. Mae cynlluniau newydd eraill ar y gweill gan Alan hefyd sef menter yn gwerthu llaeth fresh mewn poteli a llaeth wedi’i rewi o giât y fferm yn ogystal â chanolfan ymwelwyr newydd
  • Wedi llwyddo i newid ac addasu ei ffordd o ffermio i weddu i anghenion ei deulu a’i fusnes, creda Alan fod ganddo’r gallu a’r profiad angenrheidiol i helpu eraill sy’n awyddus i arallgyfeirio i sectorau ffermio arbenigol sydd â’r potensial i greu ffrydiau incwm newydd
  • Yn wrandäwr da, mae Alan yn disgrifio’i hun fel person ‘syniadau’. Mae gan Alan sgiliau datrys problemau ardderchog a ennillodd trwy ei waith ar y fferm, ei swydd oddi ar y fferm ac o fod yn gadeirydd dau bwyllgor cymunedol lleol, ac mae’n awyddus i rannu ei brofiad i helpu eraill. Mae gan Alan ddealltwriaeth dda o ddelio â rheoliadau amgylcheddol hefyd
  • Mae Alan yn y broses o gyflwyno ei feibion i’r busnes ar hyn o bryd felly mae ganddo rywfaint o brofiad o olyniaeth fferm

Busnes fferm presennol

  • Berchen daliad 215 erw, yn ogystal â rhentu 79 erw
  • Buches 25 o wartheg
  • 150 o ddefaid, yn cynhyrchu  llaeth a chig oen organig
  • System ffermio organig ers 2004

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

  • Ar ôl gadael yr ysgol, mynychodd Alan Goleg Glynllifon cyn gweithio ar nifer o ffermydd llaeth, bîff a defaid a rhedeg busnes contractio ei hun.
  • Technegydd Gwastraff ac Elifiant Dŵr mewn hufenfa leol
     

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Meddyliwch yn greadigol bob amser a pheidiwch â bod ofn gwneud pethau’n wahanol. Er bod rhywbeth wedi cael ei wneud mewn ffordd benodol erioed, nid yw hynny’n golygu and oes ffordd well.”

 “Heriwch eich syniadau trwy ystyried y canlynol:

Beth os?
Sut?
Ymchwil
Cynllunio”
“Yn bwysicaf oll, neilltuwch amser ar gyfer eich hun a’ch teulu.”