Pam y byddai Debbie yn fentor effeithiol

  • Mae Debbie Handley yn arbenigwr arallgyfeirio profiadol sydd wedi gweithio yn y sectorau garddwriaeth wirfoddol, gyhoeddus a phreifat yng Nghymru ers 2007. Penodwyd Debbie yn swyddog garddwriaeth gyntaf Cyswllt Ffermio yn 2019, gan roi gwybodaeth fanwl iddi am y gwasanaethau sydd ar gael i dyfwyr masnachol yng Nghymru yn ogystal â rhwydwaith eang o gysylltiadau o fewn y sector. Ar ôl rhoi'r gorau i'r rôl lawn amser honno oherwydd ymrwymiadau gwaith eraill, mae hi nawr yn edrych ymlaen at fentora tyfwyr presennol a darpar dyfwyr.  

  • Arbenigedd Debbie yw hwyluso rhwydweithiau garddwriaethol i alluogi tyfwyr masnachol i ddatblygu busnes cynaliadwy a hyfyw trwy gyfuniad o hyfforddiant busnes ac ymarferol a chymorth un i un.  Os ydych chi'n ystyried 'trochi eich rhaw' yn y sector hwn neu ehangu menter garddwriaeth sy'n bodoli eisoes, efallai mai hi yw'r arbenigwr delfrydol i'ch cadw chi ar y trywydd iawn!  Nid yn unig mae Debbie wedi cynghori a chefnogi busnesau bach a ffermwyr di-ri, ond mae hi hefyd yn ymarfer yr hyn y mae'n ei ddweud gartref!        

  • Ers 2013, mae Debbie a'i gŵr Phil – garddwr adnabyddus – wedi bod yn berchen ar Mostyn Kitchen Garden, gardd furiog Fictoraidd 2.5 erw yn Sir y Fflint.
    Mae'r pâr wedi datblygu'r ardd dros y deng mlynedd diwethaf, gan dyfu ystod eang o flodau, ffrwythau a llysiau gan ddefnyddio systemau cynaliadwy.  Gyda Debbie yn canolbwyntio ar yr ochr datblygu busnes, maent hefyd wedi sefydlu nifer o fentrau amrywiol llwyddiannus.   

  • Mae’r mentrau deilliedig llwyddiannus yn cynnwys creu cegin newydd lle ers 2015, maent wedi prosesu ystod eang o jamiau, siytni a finegr o'u cynnyrch eu hunain a gafodd eu cyflenwi i siopau lleol tan 2022. Erbyn hyn maent i gyd yn cael eu gwerthu yn uniongyrchol i'r cyhoedd. 

  • Dechreuodd y pâr redeg cynllun blychau llysiau ar gyfer teuluoedd lleol ac mae hyn bellach wedi'i ddatblygu'n fenter Gasglu eich Hun (PYO) tymhorol boblogaidd ar gyfer pwmpenni, blodau, mefus a ffrwythau meddal eraill.   

  • Maent hefyd yn cynnig dosbarthiadau gwneud tuswau a thorchau Nadolig, teithiau tywysedig o'r ardd ac mae'r ardd wedi bod yn lleoliad poblogaidd ar gyfer nifer o ddigwyddiadau codi arian ar gyfer elusennau lleol.

  • Disgwyliwch gael eich ysbrydoli gan wybodaeth a brwdfrydedd Debbie dros lansio a hyrwyddo mentrau newydd sy'n gysylltiedig â garddwriaeth a dysgu sut y gallwch chi lwyddo yn y sector cynyddol hwn  

Busnes fferm presennol

  • 2013 hyd heddiw – cyd-berchennog Mostyn Kitchen Garden, yn gyfrifol am ddatblygu busnes a strategaeth fusnes, marchnata a chyhoeddusrwydd, cyfryngau cymdeithasol, gwerthiannau uniongyrchol, rhwydweithio a chynllunio digwyddiadau. 

Qualifications/achievements/ experience

  • 2007 – 2016 Rheolwr Cyffredinol yr Uned Adfywio Gwledig yn cyflwyno’r Rhaglen Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol ledled Cymru.

  • 2016 – 2019 Arweinydd Menter gyda Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn gweithio gydag elusennau a mentrau cymdeithasol i ddatblygu eu busnes a datblygu pecynnau hyfforddi.

  • 2019 – 2023 Contractwr llawrydd Cyswllt Ffermio a Tyfu Cymru gan weithio gyda ffermydd garddwriaeth fasnachol ac ysbrydoli ffermwyr i ystyried garddwriaeth drwy drosglwyddo gwybodaeth a gwaith prosiect.

  • Mehefin 22 – Mehefin 2023 Gwerthuswr ar gyfer Menter Ddosbarthu Bwyd Cymunedol PLANED a phrosiectau Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro.

  • Gorffennaf 2022 – Heddiw Cyfarwyddwr presennol Slow Food Cymru, mudiad rhyngwladol gydag un genhadaeth syml "Bwyd da, glân a theg i bawb." 

  • Ebrill - Awst 2023 Swyddog Sector Garddwriaeth ar gyfer Cyswllt Ffermio gan ddatblygu prosiectau a chefnogi ffermwyr i ddatblygu eu busnes yn unol â'r nodau Rheoli Tir yn Gynaliadwy.

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

  • Tystysgrif mewn Arfer AD 
  • Tystysgrif Sefydliad Dysgu a Rheolaeth
  • Tystysgrif Addysgu Oedolion 
  • Tystysgrif Gwasanaeth Cwsmeriaid City & Guilds
  • Tystysgrif Hylendid Bwyd
  • Sgiliau cwnsela sylfaenol

Awgrymiadau ar gyfer llwyddiant busnes: 

"Gwnewch eich ymchwil, daliwch ati i ganolbwyntio a thyfwch yr hyn mae pobl eisiau ei brynu, nid yr hyn rydych chi'n meddwl y gallen nhw ei eisiau!"
"Defnyddiwch eich amser yn ddoeth i aros yn hyfyw yn ariannol - treuliwch amser a defnyddiwch egni pan fyddwch chi'n weddol sicr o'r potensial gwerthu yn unig."