Pam fyddai James yn fentor effeithiol

  • Mae gan James, sy’n cadw  gwartheg, defaid a moch, wybodaeth ymarferol o broblemau sy’n cyfyngu o fewn y diwydiant ffermio.
  • Mae James yn cadw diadell o 1,000 famogiaid, defaid Aberfield yn bennaf gyda hyrddod Aberblack. Mae hefyd yn cadw defaid Texel. Mae’r ŵyn yn cael eu gwerthu i Tesco ar gontract Cost Cynhyrchu. Mae James yn cynnal system bori cylchdro mewnbwn isel sy’n canolbwyntio ar eneteg gynhyrchiol, ansawdd y borfa a chyn lleied â phosibl o wrthfiotigau.
  • Mae gan James agwedd ragweithiol tuag at ffermio ac mae’n sicrhau ei fod yn ymwybodol o unrhyw effaith ar yr amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys peidio â thrin y tir, cnydau sy’n tyfu’n gyflym a gwyndwn yn cynnwys gwahanol rywogaethau. Mae’r busnes hefyd yn gwneud defnydd o ynni adnewyddadwy yn cynnwys boiler biomas, tanwydd solet a phaneli solar. Bob amser â diddordeb mewn cyfleoedd newydd i ennill incwm ychwanegol, mae James wedi arallgyfeirio ac yn rhedeg llety gwyliau.   
  • Gan gredu mewn herio ei hun, teithiodd James yn eang i gael profiadau newydd. Dyfarnwyd Ysgoloriaeth CFfI iddo yn 2003 i deithio i Kenya cyn teithio’n annibynnol drwy Uganda, Tanzania, Zambia, Zimbabwe a De Affrica. Ar ôl dychwelyd adref, cododd arian yn lleol a dychwelodd i Kenya lle sefydlodd brosiectau mewn ysgolion i hybu cadw gwenyn a micro-amaethyddiaeth, gan hwyluso ysbryd entrepreneuraidd a gwell maeth.
  • Mae James yn credu’n angerddol mewn iechyd meddwl a lles a’i bod yn bwysig trafod y pynciau hyn yn agored.
  • Mae gan James gysylltiad cadarn â mudiadau gwledig i bobl ifanc ac mae'n frwd dros sicrhau dyfodol cynaliadwy mewn amaethyddiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gyda rhwydwaith eang o gysylltiadau, mae James bob amser yn gyfarwydd â’r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant. Mae hefyd yn cyflogi prentisiaethau i weithio ar y fferm er mwyn i ffermwyr ifanc allu cael profiad ffermio ymarferol.
  • Mae Dolygarn yn fferm newydd yng nghynllun Ffermydd Arddangos Cyswllt Ffermio ar gyfer 2019, ar ôl bod yn Fferm Ffocws y flwyddyn flaenorol gan gynnal prosiect yn gweithredu system pori cylchdro ar gyfer system bori drwy’r gaeaf. Mae James hefyd wedi elwa ar wasanaethau eraill Cyswllt Ffermio yn cynnwys Agrisgôp a’r Academi Amaeth.
  • Gall James gynnig cefnogaeth ar y rheoliadau llygredd amaethyddol newydd.
  • Gall James hefyd gynnig cefnogaeth ar sut i leihau Costau Mewnbwn.

Busnes ffermio presennol

  • 480 erw o ucheldir
  • 1,000 o foch, system besgi ar gontract
  • 40 o fuchod sugno cyfnewid
  • 240 o loeau sy’n cael eu magu ar gontract bob blwyddyn
  • 1,000 o famogiaid magu yn cynnwys:
    - 500 famogiaid Aberfield wedi’u croesi â hyrddod Aberblack i gynhyrchu ŵyn, a’r cyfan yn mynd i Tesco ar gontract COP.
    - 500 o famogiaid magu Aberfield wedi’u croesi â hyrddod Aberfield ar gyfer defaid magu newydd gyda’r gweddill yn mynd i Tesco ar gontract COP.
  • 25 erw o goetir, wedi’u pannu yn 2018 o dan Gynllun Creu Coetiroedd Glastir
  • 2 bwthyn gwyliau moethus gyda thybiau poeth
  • Fflyd fach o ieir a’r wyau’n cael eu gwerthu i’r ymwelwyr a phobl leol
  • Bwyler biomas, tanwydd solet a phaneli solar
  • Darllenydd EID ar gyfarpar pwyso defaid

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

  • 1995: HNC mewn Amaethyddiaeth, Coleg Powys
  • 2000: Cadeirydd CFfI
  • 2003: Ysgoloriaeth CFfI Kenya
  • 2013: Rhaglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth, Cyswllt Ffermio
  • 2014: Ysgoloriaeth HCC
  • 2014 – 2018: Alumni Cenhedlaeth Nesaf Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr
  • 2016 – nawr: Colofnydd ‘In Your Field’, Farmers Guardian
  • 2017: Cadeirydd, Cymdeithas Tir Glas Hafren Uchaf
  • 2017: Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig Academi Amaeth, Cyswllt Ffermio
  • 2018 – nawr: Fferm Ffocws Cyswllt Ffermio
  • 2019 – nawr: Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Peidiwch â bod ofn methu, dysgwch yn sgil eich profiad a daliwch ati.”

“Amgylchynwch eich hun â phobl gadarnhaol.”

“Ceisiwch wybod beth yw eich cryfderau a delio gyda’ch gwendidau, bydd y rheini’n gryfderau i rywun arall.”