Pam fyddai Llion yn fentor effeithiol

  • Fel mab fferm, gall Llion uniaethu ag unrhyw un sydd angen mwy nag un ffynhonell incwm er mwyn gwneud bywoliaeth o’u fferm.
  • Ffordd Llion o daclo hyn oedd mynd ati i gyd-sefydlu asiantaeth hunan-ddarpar Y Gorau o Gymru / Best of Wales, a dyfodd i fod yn gwmni cenedlaethol yn cyflogi hyd ar 12 o staff dwyieithog. Arweiniodd hyn at 8 mlynedd o brofiadau amhrisiadwy o ran boddhad, y gwersi a ddysgwyd, ac o ran llwyddiant.
  • Tra bod Y Gorau o Gymru yn llwyddiant o ran creu incwm i’w alluogi i ddychwelyd i fyw ar y fferm, roedd her newydd – sef dod o hyd i amser i ffermio! Bu’r cyfnod nesaf felly yn ymgais i ddod o hyd i ‘ryddid ariannol’ oedd yn caniatau’r hyblygrwydd angenrheidiol ar gyfer y teulu a’r fferm. Os ydy’r her yma’n swnio’n gyfarwydd i chi hefyd, gobaith Llion yw y gall rannu rhai o’i ganfyddiadau er mwyn eich galluogi chi i gyrraedd yr un nod.
  • Er mwyn cyrraedd y nod hwn, buddsoddodd Llion mewn cwrs blwyddyn o’r enw Property Mastermind yn 2021 oedd yn canolbwyntio ar strategaethau adeiladu portffolio eiddo, er mwyn creu llif arian. Enillodd wobr y Perfformiwr Gorau ar ddiwedd y cwrs, a arweiniodd at le ar gwrs Property Entrepreneur. Rhaglen hyfforddi dros gyfnod o flwyddyn yw hon sy’n dilyn glasbrint strategol sydd wedi ei brofi gan entrepreneuriaid llwyddiannus, ar gyfer systemeiddio a thyfu busnes mewn eiddo.
  • Dros ddau ddegawd, mae Llion wedi bod yn buddsoddi mewn eiddo, yn amrywio o lety hunan-ddarpar, i ‘fflips’, o ‘buy to lets’ i dai myfyrwyr. Tan 2021, rhywbeth yn y cefndir oedd hyn. Serch hynny, yn dilyn y buddsoddiad mewn cyrsiau arbenigol, llwyddodd Llion i dyfu ei bortffolio x4 mewn cyfnod o 18 mis. 
  • Dymuniad Llion yn ei ról fel mentor yw gallu defnyddio’r profiadau uchod i ysbrydoli a chynorthwyo eraill sydd hefyd ag awydd a gweledigaeth i ddatblygu mentrau newydd neu ehangu mewn meysydd megis llety hunan-ddarpar, buddsoddi mewn eiddo a thyfu portffolio.

Busnes fferm presennol

  • Mae Llion mewn partneriaeth fferm gyda’i rieni a’i frawd, yn cyd-ffermio 240 acer o dir pori.
  • 375 o famogiaid magu, Penfrith yn bennaf a’r gweddill yn groes Miwls Penfrith a hyrddod Wyneblas Caerlyr. Hyrddod Wyneblas a Texel ar gyfer wyn tewion a Phenfrith ar gyfer wyn menyw.
  • Mae Llion hefyd yn gosod 4 uned hunan-ddarpar ar y fferm, yn cynnwys dau fwthyn a dau gaban.

Cymwysterau/ cyraeddiadau/ profiad

  • Ennill gwobr y ‘Perfformiwr Gorau’ ar gwrs ‘Property Mastermind’ 2021.
  • Derbyn lle ar gwrs ‘Property Entrepreneur’, sy’n mynd law yn llaw á ffermio a datblygu’r busnes buddsoddi mewn eiddo ymhellach.
  • Cyd-sefydlu a chyfarwyddo cwmni Y Gorau o Gymru ac ennill nifer o wobrau busnes ar hyd y daith. Rhai o’r prif gyrhaeddiadau oedd creu swyddi i bobl lleol a thyfu’r busnes a’r elw yn flynyddol. Hefyd, fel yr unig asiantaeth genedlaethol oedd yn gweithredu’n ddwyieithog o fewn y sector ar y pryd, y balchder o wybod fod hyn, dros amser, wedi dylanwadu ar weddill y diwydiant, i roi lle mwy amlwg i’r Gymraeg a Chymreictod.
  • Profiad o ddelio á diddordeb cwmniau mwy o fewn y diwydiant yn ein cwmni, a bod mewn sefyllfa i negodi strategaeth ymadael mewn modd oedd yn sicrhau parhad y brand, cadw swyddi ac ymestyn gwerthoedd Cymreig y cwmni i gynulleidfaoedd ehangach fyth.
  • Profiad o arwain prosiect hynod gyhoeddus ac uchelgeisiol o’r enw ‘Hafan Epic Retreats’ yn 2017, oedd yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth á dau gwmni arall gyda’r nod o lwyddo’n fasnachol, tra’n cwrdd gofynion y llywodraeth ar y naill law, a chwmni teledu ar y llaw arall. Arweiniodd hyn at gyfres deledu ‘Cabins in the Wild’ a sicrhau cyhoeddusrwydd byd-eang i Gymru, yn ogystal á chabannau unigryw sydd yn parhau i fod ar gael i’w harchebu am wyliau.
  • Gradd Meistri mewn Entrepreneuriaeth o Brifysgol Aberystwyth.
  • Treuliodd Llion 4 mlynedd cyntaf ei yrfa yn gweithio i Menter a Busnes, yn cynorthwyo pobl ifanc i dreialu syniadau busnes, cyn treulio’r 4 mlynedd nesaf fel Rheolwr Marchnata Cymraeg i Oedolion yng Nghaerdydd a’r Fro.
  • NVQ Lefel 5 mewn Rheolaeth
  • Diploma Proffesyinol mewn Marchnata (CIM)

Top tips for business success 

“Gwnewch yn siwr fod y rheswm ‘pam’ yn gryf ac yn glir yn eich meddwl cyn mynd amdani.”

“Gwnewch amser i fwynhau’r olygfa o bob copa cyn troi’ch golygon at y copa nesaf.”

“Dydy mwy o incwm ddim yn golygu mwy o elw.”