*Nid yw Matt yn gallu derbyn ceisiadau mentora ar hyn o bryd. Cysylltwch ag Awel Jones ar 07961 958 807 / awel.jones2@menterabusnes.co.uk i drafod eich opsiynau eraill.*
Pam fyddai Matt yn fentor effeithiol
- Yn gyn-gynhyrchydd teledu ac yn newydd-ddyfodiad i ffermio, dechreuodd Matt ffermio yn 2012. Yn wreiddiol o Swydd Efrog, syrthiodd Matt mewn cariad â Chymru tra’r oedd yn astudio ym Mhrifysgol Bangor ac yn gweithio ar Ynys Môn ac Ynys Enlli. Roedd ei yrfa yn gynhyrchydd teledu yn cynnwys gweithio gyda Syr David Attenborough ar y cyfresi Planet Earth a Frozen Planet i’r BBC cyn iddo ef a’i wraig fentro i brynu eu fferm 350 mlwydd oed yng Ngogledd Cymru.
- Mae Matt yn angerddol am fanteision ffermio ar raddfa fach yn ecolegol ac mae’n defnyddio paramaethu a rheolaeth holistaidd fel dulliau dylunio ar ei fferm. Er mai dim ond ers saith mlynedd y mae wedi bod yn gwneud hyn, mae’r fferm yn dod yn enghraifft gadarn o ddull ecolegol o ffermio ar raddfa fach. Trwy weithio yn barhaus i wneud y fferm yn fwy gwydn a chynhyrchiol gan hefyd ganolbwyntio ar fod yn adfywiol, gall Matt roi cyfarwyddyd i ffermwyr sydd am wneud eu busnesau yn fwy cynaliadwy a chynhyrchiol.
- Mae’n fferm sydd wedi arallgyfeirio a daw’r incwm yn bennaf o dwristiaeth; godro micro; defaid; coedwigaeth; wyau a garddwriaeth masnachol, y cyfan yn cael eu gwneud ar raddfa fach ond proffidiol a chynhyrchiol. Cred Matt mai’r amrywiaeth sy’n galluogi iddo greu incwm o fferm mor fach.
- Mae’r fenter odro micro yn cael ei rhedeg gyda buches o 6, gan arbenigo mewn gwerthu llaeth yn syth o’r buchod sy’n cael eu cadw gyda’u lloeau a’u porthi ar laswellt yn unig. Menter arallgyfeirio arall yw defnyddio gwlân eu defaid i greu cynnyrch ffibr a chnu o safon uchel sy’n creu elw ychwanegol sylweddol.
- Mae gan y fferm bedair uned glampio a saith o safleoedd gwersylla. Mae’r drefn yn wladaidd ac yn annog pobl i gysylltu â natur gan ddarparu popeth sydd arnynt ei angen i fod yn gyfforddus.
- Fel cyn gyfarwyddwr ar Ethical Solar, cwmni gosod a mewnforio paneli PV solar adnewyddol sydd wedi ennill gwobrau, mae gan Matt brofiad o ynni adnewyddol. Maent wedi gosod paneli solar a thyrbin gwynt bychan ar y fferm, ac ar hyn o bryd maent yn edrych ar gynllun ynni dŵr bychan.
- Ag yntau yn ddyn pobl, mae Matt yn mwynhau gweld pobl yn llwyddo ac yn awyddus i rannu ei wybodaeth i helpu eraill ar y ffordd. Dywed ei fod yn aml yn cael cymaint mwy allan o’i brosiectau neu ddysg ei hunan wrth helpu eraill i ddatblygu, gan ddisgrifio mentora fel perthynas ddwy ffordd sy’n fanteisiol i’r ddwy ochr.
- Mae Matt wedi cael budd o lawer o wasanaethau Cyswllt Ffermio gan gynnwys rhaglenni Agrisgôp, Y Gyfnewidfa Reolaeth ac EIP. Mae hefyd wedi areithio mewn nifer o ddigwyddiadau Byw ar 10 Erw. Diolch i’r profiadau yma, mae gan Matt rwydwaith o gefnogaeth fyd-eang gyda rhai o’r bobl orau yn y diwydiant.
- Byddai Matt wrth ei fodd yn gweithio gydag unrhyw un sydd am wneud ei fusnes fferm yn fwy cynaliadwy neu sydd am ddefnyddio paramaethu neu ddulliau amaeth-ecolegol.
Busnes fferm presennol
- Fferm 80 erw
- Menter odro micro gyda 6 o fuchod Jersey/Du Cymreig
- 4 buwch bîff Shetland, y cig yn cael ei werthu yn uniongyrchol o’r fferm
- 80 mamog gan gynnwys defaid Jacob; Shetland a bridiau cynhenid eraill, â’r gwlân yn cael ei ddefnyddio i greu cynnyrch cnu a ffibr o safon uchel
- 200 o ieir dodwy, yn cael eu cadw ar borfa mewn cytiau symudol
- 6 o berchyll wedi eu diddyfnu, wedi eu pesgi ar wastraff y fferm dros yr haf
- Gardd lysiau fechan, y llysiau yn cael eu gwerthu trwy gynllun blychau llysiau gyda phobl yn casglu llysiau o’r fferm
- 40 erw o goetir, yn cael ei drosi ar hyn o bryd o befrwydd i silfoborfa, amaeth-goedwigaeth a rheoli coedlannau
- Paneli solar a thyrbin gwynt bychan
- Busnes gwersylla, glampio a digwyddiadau ar y fferm yn cynnwys 4 uned glampio a 7 o safleoedd gwersylla
Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad
- 1997 – 2000: BSc Ecoleg Morol, Prifysgol Bangor
- 2000 - 2004: PhD Ecoleg, Prifysgol Caergrawnt/Arolwg Antartig Prydeinig
- 2004 – 2011: Cynhyrchydd Cynorthwyol, Uned Natur BBC
- 2011 – 2013: Cyfarwyddwr, Ethical Solar
- 2014: Diploma mewn Paramaethu, y Gymdeithas Baramaethu
- 2014: Aelod, Grŵp Ffermwyr a Thyfwyr y Gymdeithas Paramaethu
- 2014: Aelod, Paramaethu Cymru
- 2016: Hyfforddiant rheolaeth holistaidd, Re-gen Ag UK
- 2013 - presennol: Ffermwr Hunangyflogedig
AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES
“Pan fyddwch chi am wneud rhywbeth, dylech chwilio am y gorau yn y byd a dysgu hefo nhw. Mae dod o hyd i fentor da yn amhrisiadwy.”
“Ffermio yw’r swydd bwysicaf yn y byd. Carwch yr hyn yr ydych yn ei wneud a byddwch yn falch ohono. Dilynwch eich gweledigaeth eich hun; peidiwch â cheisio plesio pawb neu wneud yr hyn y mae eraill yn ei ddisgwyl i chi ei wneud.”
“Y prif gyfyngiad ar allu eich fferm i gynhyrchu yw eich dychymyg.”