Pam y byddai Phil yn fentor effeithiol

  • Yn dilyn gyrfa yn yr heddlu, penderfynodd Philip ddilyn llwybr gyrfa ym maes garddwriaeth. Cwblhaodd HND mewn Garddwriaeth Organig yng Ngholeg Garddwriaeth Cymru yn 2007 ac aeth ymlaen i reoli'r fferm organig yn y coleg tan 2008. 
  • Er mwyn ennill profiad pellach, bu Philip yn gwneud gwaith garddwriaethol i elusennau a daeth yn rheolwr ar feithrinfa fasnachol a chanolfan arddio yn Swydd Gaerwrangon yn 2009. Yn 2011, aeth ymlaen i fod yn gydlynydd prosiect ar gyfer yr elusen Groundwork, a oedd yn cynnwys rhedeg dau brosiect garddwriaethol ILM ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed yn Wrecsam a Mostyn.
  • Ar ddiwedd y prosiect ILM yn 2012, sefydlodd Mostyn Kitchen Garden. Mae'r ardd gegin yn cael ei rhedeg fel busnes garddwriaethol masnachol ochr yn ochr â gardd gegin, fel menter gymdeithasol i Mostyn Estates Ltd lle gall grwpiau, sefydliadau ac unigolion o'r gymuned elwa o brofiad gwaith.
  • Mae’r ardd gegin yn cynnwys gardd gaeedig 2.5 erw a pherllan fawr a ddefnyddir i dyfu ystod eang o ffrwythau meddal, ffrwythau a llysiau gan gynnwys aeron, riwbob, tomatos, betys, ffa, cnydau bresych, perlysiau a chnydau salad. Er mwyn ychwanegu gwerth at y ffrwythau a'r llysiau a dyfir, mae'r busnes wedi arallgyfeirio i gynhyrchu ystod o jamiau, siytni, sawsiau a suropau coctel sy'n cael eu gwerthu mewn siopau fferm lleol a gan fanwerthwyr bach. Maent hefyd yn cynhyrchu finegr seidr afal ac ystod o gynhyrchion gwerth ychwanegol pellach. Cred Philip fod cynhyrchu brandio ac ychwanegu gwerth yn hanfodol ar gyfer twf garddwriaeth yng Nghymru.
  • Mae Phil yn gyfathrebwr gwych sy’n angerddol dros ddatblygu garddwriaeth yng Nghymru, ac mae’n awyddus i rannu ei wybodaeth a’i brofiad i gefnogi eraill yn y diwydiant.

Busnes fferm presennol

  • Gardd gaeedig 2.5 erw gyda pherllan a choed ffrwythau ychwanegol
  • Menter gymdeithasol

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad

  • 2020 - presennol: Safle Ffocws Cyswllt Ffermio 
  • 2020 - presennol: Cymryd rhan mewn dau brosiect garddwriaeth EIP yng Nghymru
  • 2016: Ar y rhestr fer yn rownd derfynol Gwobrau Cynhyrchwyr Cylchgrawn Delicious
  • 2015: Enillydd Gwobr Partneriaeth Busnes a Chymuned B2C (Busnesau sy'n Cefnogi Cymunedau)
  • 2007: Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Garddwriaeth Organig, Coleg Garddwriaeth Cymru 
     

 

Awgrymiadau ar gyfer llwyddo mewn busnes:

1) Tyfwch gnydau sy’n addas ar gyfer y safle, y cyfleusterau a’r llafur sydd ar gael

2) Sicrhewch fod marchnad hygyrch ar gyfer y cynnyrch am swm sy’n broffidiol

3) Edrychwch ar ffyrdd o ychwanegu gwerth at y cynnyrch a chynyddu'r elw