Pam y byddai Rachel yn fentor effeithiol

  • Ochr yn ochr â ffermio teuluol traddodiadol, mae elfen entrepreneuraidd Rachel wedi bod yn amlwg ers i’w theulu benderfynu trawsnewid adeiladau fferm nad oedd yn cael eu defnyddio yn fythynnod gwyliau dros 20 mlynedd yn ôl.  Bu’r rhain yn fuddsoddiad cadarn, gan roi ffynhonnell incwm ychwanegol. Yn fwy arwyddocaol, fe wnaethant roi hyder i Rachel sefydlu llawer o fentrau eraill llwyddiannus yn ymwneud ag ymwelwyr. 
  • Datblygodd asiantaeth gosod bythynnod fechan, gan sicrhau’r incwm mwyaf i berchenogion bythynnod gwyliau eraill yn lleol. Dros amser, roedd y trosiant dros nifer o filiynau o bunnau. Mae’n tadogi’r llwyddiant i’w pharodrwydd i ddefnyddio technoleg a’r rhyngrwyd, a wnaeth ei galluogi i farchnata’n eang am ychydig iawn o gostau. Dywed Rachel bod y cyfryngau cymdeithasol wedi chwarae rhan fawr wrth ddatblygu’r busnes y gwnaeth ei werthu wedyn i gwmni gwyliau cenedlaethol. 
  • Yn 2020 yn ystod y cyfnod clo, trawsnewidiwyd rhannau o’r fferm nad oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer ymwelwyr. Mae “Pembrokeshire Pumpkins”, menter arallgyfeirio lwyddiannus yn awr yn gweithio’n dda ochr yn ochr â ffermio traddodiadol. O un clwt pwmpenni cychwynnol mae hyn wedi datblygu tu hwnt i’r fenter casglu eich hun i gynnwys gweithgareddau ar thema Calan Gaeaf dan do ac yn yr awyr agored. Erbyn hyn mae ganddynt lwybr fferm i godi ofn ac maent yn cynnig gweithgareddau dan do fel cerfio pwmpenni a menter addysgol boblogaidd lle gall ymwelwyr weld a dysgu am gorynnod egsotig. Mae’r holl gyfleoedd tymhorol i ymwelwyr yn cael eu marchnata bron yn gyfan gwbl trwy gyfryngau cymdeithasol.
  • Yn gyfathrebwr rhwydd a hyderus, sy’n cyfaddef mai ‘Cymraeg sgwrsio’ sydd ganddi, mae Rachel yn edrych ymlaen at ei swyddogaeth fel mentor i Cyswllt Ffermio, ar ôl cael bodlonrwydd o weithio ochr yn ochr â nifer o fusnesau twristiaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r rhain wedi cynnwys gwersylla ar y fferm mewn podiau, trosi tŷ mawr i gynnig llety gwyliau a helpu teulu i ddatblygu a hyrwyddo atyniadau ymwelwyr tu hwnt i’r tymor. 

Busnes fferm presennol

  • Cnydau tir âr yn bennaf (grawn ac ati) a glaswelltir yn cael ei ddefnyddio i ddefaid yn gaeafu 
  • Caeau pwmpenni a blodau haul gydag atyniadau ymwelwyr cysylltiol
  • Tri chnwd o silwair sych (yn benodol i’r fasnach geffylau) yn cael eu cynaeafu yn flynyddol
  • Tri eiddo gwyliau i’w osod
  • Dau eiddo ar osod yn barhaol
  • Atyniadau ymwelwyr/grwpiau ysgol/yn ymwneud â ffermio ar hyn o bryd yn cynnwys: 
    • Pwmpenni – gyda’r casglu a’r gwerthu yn cael eu cefnogi gan atyniadau yn gysylltiedig â Chalan Gaeaf, gan gynnwys llwybr codi ofn a gweithgareddau dan do fel cerfio pwmpenni a gweithdai corynnod
    • Pwmpenni gwastraff/dros ben yn cael eu casglu gan ffermwyr lleol sy’n ystyried bod y rhain yn ddull naturiol o drin llyngyr mewn gwartheg a defaid 
    • Blodau haul casglu eich hun yn ystod misoedd yr haf. Ar ôl blodeuo, cesglir yr hadau a’u cymysgu â’r porthiant i wartheg 
    • Ardal chwarae yn y coetir, gweirglodd blodau gwyllt, gwesty pryfed, ardaloedd picnic, golff disgiau ac ati

Cymwysterau/llwyddiannau/profiad

  • Cychwynnodd gyrfa Rachel yn swyddog Tollau EM, gan roi profiad gwerthfawr iddi o weithio gyda’r cyhoedd yn ogystal â dealltwriaeth rheoli a gweinyddu. 
  • Yn bartner ym musnes y fferm deuluol, hi sydd wedi bod y tu ôl i nifer o’r mentrau twristiaeth – gyda phrofiad personol o gychwyn mentrau arallgyfeirio gartref a thrwy gynghori teuluoedd ffermio eraill sydd wedi croesawu ei gwybodaeth a’i harbenigedd. 
  • Enillodd nifer o wobrau ‘busnes’ yng Nghymru gan gynnwys: 
    • Ymgyrch farchnata’r Post Brenhinol – Cymru (ail yn y Deyrnas Unedig)
    • Gwobr Adran Masnach a Diwydiant Cymru i fusnes bach am e-fasnach (roedd hefyd yn ail yng nghynllun e-fasnach y Deyrnas Unedig) 
    • Ail fel Menyw Fusnes y Flwyddyn yng Nghymru 
    • Cyn-gadeirydd, ymddiriedolwr presennol ac aelod o bwyllgor yr elusen Women in Wales
  • Mae Rachel yn codi arian yn frwdfrydig i nifer o elusennau gan gynnwys Women in Wales. Yn ddiweddar mae wedi codi mwy na £8,000 i deuluoedd yn Wcráin, yn ogystal ag arian i Farchogaeth i’r Anabl, y To Wish Foundation ac ysbyty plant Arch Noa Cymru, y cyfan trwy weithgareddau ar y fferm.
  • Bu’n cynrychioli Achub y Plant fel llysgennad – gan ymweld â busnesau bach, yn cael eu rhedeg gan fenywod yn aml, a phrosiectau addysgol mewn ardaloedd a ddifethwyd gan drowyntoedd. 

Awgrymiadau da am lwyddiant mewn busnes 


“Gall newid fod yn gysyniad anodd i ffermwyr traddodiadol, ond peidiwch â bod ofn addasu! Siaradwch ag eraill sydd wedi cael llwyddiant mewn mentrau newydd. Gwrandwch, dysgwch, gofynnwch gwestiynau!” 
“Ymchwiliwch i unrhyw fenter newydd yn drwyadl, dynodwch anghenion posibl y farchnad ac ystyried yr amser a’r adnoddau y bydd arnoch eu hangen. Ar ôl i chi gael gafael yn yr elfennau sylfaenol hanfodol hynny, trwy ddadansoddiad SWOT efallai (Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd, Bygythiadau) ffurfiwch eich cynllun, cyfrifwch yr arian angenrheidiol a gosodwch y dyddiadau cau!”