Pam fyddai Rhidian yn fentor effeithiol
- Er nad oedd o gefndir amaethyddol, cychwynnodd Rhidian ei yrfa mewn amaethyddiaeth fel cynrychiolydd gwerthu bwydydd anifeiliaid, ond roedd â’i fryd ar ddod yn ffermwr. Yn 2008, cychwynnodd Rhidian arni trwy gael naw erw o dir pori gwael ar rent i 15 o ddefaid mynydd Cymreig, ac yna cymerodd dir pori a ddaeth ar gael yn yr ardal leol.
- Yn 2014 llwyddodd Rhidian i gael tenantiaeth fusnes fferm 10 mlynedd ar fferm fynydd 530 erw a hefyd mae ganddo drwydded bori 11 mis ar 160 erw ger y prif ddaliad. Erbyn hyn mae’r ddiadell wedi tyfu i 900 o famogiaid a 250 o stoc cyfnewid. Gwerthir yr ŵyn i Tesco yn bennaf ar gontract costau cynhyrchu. Yn 2014 cychwynnodd Rhidian fenter fagu heffrod hefyd, gan gael grwpiau o 110 o loeau a’u magu am 16 mis, sy’n golygu bod 220 o heffrod yn pori cylchdro dros gyfnod yr haf.
- Mae Rhidian yn rhoi pwyslais mawr ar wella effeithlonrwydd yn ei fusnes, gan ddefnyddio cofnodi perfformiad i gael y cynhyrchiant mwyaf gan ei ddiadell a phori cylchdro i helpu i wella proffidioldeb a chynhyrchiant ei dir. Mae wedi bod yn pori heffrod ar gylchdro ers 2014 ac mae wedi sefydlu system rwydd ac effeithiol i bori heffrod i gael y cyfraddau tyfu gorau ar system borthiant gan wella glaswelltir a gallu’r tir i gadw stoc.
- Mae Rhiwgriafol wedi bod yn fferm arddangos Cyswllt Ffermio ers 2016, yn rhedeg prosiectau yn canolbwyntio ar daclo cloffni mamogiaid, tyfu swêj, a dewisiadau gaeafu defaid a gwneud gwell defnydd o laswellt. Dywed Rhidian bod y cyfle hwn wedi rhoi mynediad iddo at wybodaeth a chyngor gorau’r diwydiant, sydd, nid yn unig wedi bod o fudd i’w fusnes ef, ond i ffermwyr uchelgeisiol eraill sydd wedi dod i ddyddiau agored yn dymuno dysgu am weithio yn fwy effeithlon neu yn fwy proffidiol.
- Cred Rhidian y dylech wneud y mwyaf o bob cyfle ac mae wedi ymwneud yn helaeth â’r gymuned amaethyddol dros y blynyddoedd. Mae Rhidian wedi cael budd o nifer o wasanaethau Cyswllt Ffermio gan gynnwys defnyddio’r Gwasanaeth Cynghori i greu cynllun busnes.
- Fel newydd-ddyfodiad i fyd ffermio, gall Rhidian roi cyfarwyddyd i’r rhai sy’n cychwyn ar eu gyrfa amaethyddol ar sut i dyfu busnes hyfyw.
Busnes fferm presennol
- 530 erw ar Denantiaeth Busnes Fferm, trwydded bori 160 erw
- 900 o famogiaid mynydd Cymreig a 250 o stoc cyfnewid, wedi eu croesi â hyrddod Aberfield a defaid magu yn cael eu gwerthu am bremiwm
- 110 o heffrod croes Kiwi, wedi eu magu am 16 mis
Cymwysterau / llwyddiannau / profiad
- 2010: Cadeirydd CFfI Bro Ddyfi
- 2008: BSc Amaethyddiaeth, Prifysgol Aberystwyth
- 2009-2019: Ysgrifennydd, Cymdeithas Tir Glas Bro Ddyfi
- 2013: Aelod o raglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth, Cyswllt Ffermio
- 2013-2019: Trysorydd, Sioe Aberhosan
- 2016-2019: Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio
- 2018: Enillydd Medal Aur y Wobr i Newydd-ddyfodiaid: Gwobrau Ffermio Prydain, Against All Odds
AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES
“Er bod newydd-ddyfodiaid yn dod â syniadau newydd i’r pot, mae’n rhaid i chi fod yn barod i wrando ar brofiad a gwybodaeth rhai eraill.”
“Ceisiwch ddysgu oddi wrth gamgymeriadau pobl eraill fel nad oes raid i chi eu gwneud eich hun.”
“Byddwch yn barod i addasu a bod â chynllun wrth gefn.”