Pam fyddai Richard yn fentor effeithiol
- Mae gan Richard dros 30 mlynedd o brofiad o redeg busnes amaethyddol. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi datblygu amrywiaeth o fentrau ac wedi manteisio ar ystod o opsiynau arallgyfeirio
- Mae Richard yn gwbl agored i newid, fel y dangoswyd wrth iddo dreialu’r hyn a welodd yn Seland Newydd yn 2013, yn archwilio manteision llyriad (plantain) o’i gymharu â glaswelltau eraill er mwyn pesgi ŵyn ar borthiant
- Fel person, mae Richard yn gymdeithasol iawn ac yn hawdd siarad ag ef. Fel mentor i’r rhaglen Newydd Ddyfodiaid, roedd yn gallu cynnig cyngor cadarnhaol i’r bobl ifanc yr oedd yn ymwneud â nhw. Roedd yn mwynhau’r rôl hon yn fawr, yn cwrdd â ffermwyr ifanc arbennig ac yn dysgu ganddyn nhw’n ogystal. Mae wedi cadw cysylltiad gyda nifer o’r bobl ifanc ac maent wedi teimlo’u bod yn gallu cysylltu ag ef yn ddiweddarach i holi am gyngor neu i drafod syniadau. Byddai rôl fentora yn ei alluogi i barhau i ddefnyddio’r sgiliau y mae wedi eu datblygu
- Mae busnes Richard wedi tyfu o 220 erw ym 1985 i 650 erw erbyn hyn. Ei brif ffocws gyda defaid yw gwelliannau geneteg a lleihau costau trwy wneud y defnydd gorau o borthiant o ansawdd uchel. Mae’r busnes gwartheg yn canolbwyntio ar wartheg Stabiliser i wella perfformiad mamol ac i besgi bîff ar borthiant.
- Ochr yn ochr â’r mentrau hyn, mae wedi gwneud defnydd o gynlluniau amgylcheddol er mwyn cynyddu’r elw o dir ymylol a sicrhau’r gwerth uchaf o ran cadwraeth
Busnes fferm presennol
- 650 erw – yn berchen ar 450, ac yn rhentu 200, o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- 80 erw o goetir a phrysgdir
- 1,050 o famogiaid magu a 250 o ŵyn benyw - cymysgedd o Suffolk croes Miwl a mamogiaid Aberfield croes
- 70 o fuchod sugno, yn symud tuag at fuches Stabiliser
- Tyfu 70 erw o haidd gwenith gwanwyn, 18 erw o wreiddiau a chêl er mwyn gaeafu gwartheg tu allan
- 13 mlynedd fel rhan o Dir Gofal, tair yn rhan o Glastir mynediad, ac yn rhan o Glastir uwch ers blwyddyn
- Mae arallgyfeirio’n cynnwys bwthyn gwyliau hunan arlwyo a gosod eiddo ar sail hir dymor
- Buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy gyda solar thermol, solar PV a boiler sglodion pren
Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad
- OND mewn Amaethyddiaeth, Coleg Amaethyddol Cymru, Aberystwyth 1981 -1984
- Treulio amser yn gweithio yn Seland Newydd ac Awstralia 1987-1988
- Cynhyrchwr Cig Oen y Flwyddyn Dalehead 2013
- Ffermwr Defaid y Flwyddyn Farmers Weekly 2015
- Cronfa Arloesedd Ffermwyr – cynnal prosiect yn treialu llyriad yng Nghymru 2014
- Gwobr Arloesedd Waitrose Farming Partnership Awards 2015
- Mentor Rhaglen Cefnogi Newydd Ddyfodiaid am bedair blynedd
AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES
“Fy awgrymiadau gorau i ar gyfer llwyddo mewn busnes yw cael gweledigaeth hir dymor ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf ac i greu cynllun cadarn i gyflawni hynny, gan fanteisio ar bob cyfle sy’n fuddiol i’r busnes ar hyd y ffordd.”