Pam fyddai Romeo yn fentor effeithiol

  • Mae Romeo Sarra yn ffermwr ail genhedlaeth a anwyd yn Sir Benfro, a phenderfynodd flynyddoedd yn ôl nad oedd am ddilyn ei dad ac ymroi ei holl fywyd gwaith i odro. Ar ôl gadael y coleg, dechreuodd weithio ar ei fferm ei hun, yn ymwneud â phob agwedd o amaethyddiaeth yn gyffredinol i ddechrau gan gynnwys llaeth, bîff a chnydau âr. Yn raddol, dechreuodd leihau’r niferoedd o dda byw a rhoi’r gorau i odro gan ddechrau arallgyfeirio i arddwriaeth, sydd nawr yn brif ateg y busnes.
  • Yn y 90au cynnar, prynodd Mr Sarra dyddyn 40 erw ym Mhortfieldgate ger Hwlffordd gyda’r bwriad o dyfu grawnfwyd a thatws. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, penderfynodd newid y fferm i fod yn un organig. Mae’r cyfuniad llwyddiannus hwn wedi ei alluogi i dyfu, pacio a gwerthu ystod eang o gnydau llysiau gwraidd, cnydau bresych a chnydau salad yn yr haf i nifer gynyddol o brynwyr arbenigol.
  • Ar hyn o bryd, mae’n gwerthu’n bennaf trwy gynllun bocsys sydd wedi’u teilwra, yn lleol ac ar goridor yr M4 gan roi’r dewis o ddosbarthu neu gasglu, yn ogystal â gwerthu niferoedd mwy i gyfanwerthwr organig lleol yn Sir Benfro. Mae Romeo wedi datblygu’r busnes yn raddol, gan ennill cwsmeriaid rheolaidd sy’n gwerthfawrogi’r blas heb ei ail a tharddiad y cynnyrch ffres sydd wedi’u tyfu’n organig ar fferm leol am bris cystadleuol.
  • Mae’r arddwriaeth cae agored sy’n tyfu ar system gylchdro mewn blociau 10 erw, wedi esblygu o datws, i foron, maip, swêds a chnydau gwraidd eraill, ac mae cnydau bresych wedi datblygu o fresych a blodfresych i lysiau megis broccoli a bresych deiliog. Mae hefyd yn tyfu ffa megis ffa dringo sy’n cael eu tyfu tu allan gydag amrywiaeth eang o gynnyrch haf tymhorol mewn twnnel polythen mawr. 
  • Trwy adeiladu elfen arddwriaeth y busnes, mae Romeo wedi cael profiad a sgiliau sy’n ymwneud â phob agwedd ymarferol o gynhyrchu garddwriaethol a bydd ei agwedd frwdfrydig yn annog ac ysbrydoli eraill. Mae hyn yn cynnwys dewis y tir a’r cnydau addas, trin, plannu, hadu, cenhedlu, chwynnu, cynaeafu a’r offer cysylltiedig sydd ei angen, plâu ac afiechydon, dod o hyd i hadau a phlanhigion.
  • Mae gan Romeo borfiad ymarferol helaeth ac yn berchen amrywiaeth o offer a pheiriannau sydd yn ei helpu o ran gwneud systemau cynhaeafu a phlannu’n fwy effeithlon, ac mae’n hapus i roi arweiniad i dyfwyr eraill yn y maes bwysig hon.
  • Dros y blynyddoedd, mae Romeo wedi newid technegau ar gyfer rheoli pridd. Mae’n gefnogwr brwd o samplu pridd, trin hen ardaloedd chwyn a chodi planhigion i’w trawsblannu fel bod llai o gystadleuaeth i chwyn
  • Yn gyfathrebwr da, mae Romeo yn hapus i rannu ei brofiadau o sefydlu prosiect arallgyfeirio llwyddiannus gan ddefnyddio tir âr i dyfu cnydau cyfunadwy organig.
  • Wedi’i ardystio’n organig ers 1990, mae gan Romeo brofiad o reoli busnes ac elfennau gweinyddol, marchnata, ardystio a thyfu ymarferol yn ymwneud â sicrhau statws organig
     

Busnes fferm presennol

  • Yn berchen ar 60 erw
  • 40 erw yn cael eu defnyddio ar gyfer garddwriaeth ar system gylchdro mewn 10 bloc. Mae’r cylchdro tair i bedair blynedd yn cynnwys tatws neu gnydau bresych, cnydau llysiau, cnwd llysiau arall o bosib, a chnwd ffrwythlondeb neu laswellt
  • Organig ers 1990
  • Cynllun Glastir Organig 

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

  • Diploma Cenedlaethol mewn Amaethyddiaeth, Coleg Amaeth Cymru, Aberystwyth 1972-1975
  • Profiad gwaith yng Ngholeg

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Mae dyfalbarhad yn talu ar ei ganfed. Mae’n rhaid i chi weithio’n galed, canolbwyntio, dyfalbarhau a chadw trefn ar bethau.”

“Ceisiwch ddilyn farchnad a thyfu’r hyn y gall pobl fod eisiau eu prynu.”