Pam fyddai Steve yn fentor effeithiol 

  • Mae Steve wedi bod yn ymwneud â’r diwydiant defaid ar hyd ei oes, a chafodd ei fagu ar fferm gymysg ei dad-cu a’i fam-gu yn Sir Benfro. Ar ôl astudio Amaethyddiaeth yn y brifysgol cyn mynd ymlaen i weithio fel rheolwr prosiect, llwyddodd Steve i dderbyn fferm ar denantiaeth gan y cyngor yn 2012. Mae bellach yn ffermio yno gyda’i wraig, Kara a’u 5 o blant ifanc.
  • Mae ei fenter ddefaid yn cynnwys diadell o 250 o famogiaid masnachol, a fu’n cael eu gwerthu’n fyw mewn marchnadoedd lleol hyd yn ddiweddar iawn. Mae nifer fechan o ddefaid Texel pedigri y mae eu perfformiad yn cael eu cofnodi yn cynhyrchu hyrddod ar gyfer y ddiadell ac mae unrhyw hyrddod dros ben yn cael eu gwerthu fel hyrddod bridio.
  • Mae gweithio ledled y DU wedi rhoi profiad i Steve o nifer o systemau ffermio defaid, ac mae wedi bod yn gweithio ym maes Cofnodi Perfformiad a Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBV) dros y 14 mlynedd diwethaf.
  • Mae Steve hefyd yn gweithio fel contractwr yn darparu gwasanaeth sganio beichiogrwydd a rhew frandio, gan olygu ei fod wedi hen arfer â rhyngweithio gyda ffermwyr, ac mae ganddo brofiad ymarferol o systemau ar ffermydd eraill.
  • Gan ei fod yn awyddus i ychwanegu gwerth at ei gig oen, penderfynodd Steve i arallgyfeirio drwy sefydlu busnes cynhyrchu a danfon bocsys cig yn 2019, sef Pembrokeshire Lamb, ac mae bellach yn gwerthu cig oen, hesbin a dafad o’r giât i’r plât yn uniongyrchol i gwsmeriaid. Mae Steve bob amser yn gwneud ei orau i gynhyrchu cig oen crefft sy’n canolbwyntio ar ansawdd, ac mae ei ymdrechion wedi dwyn ffrwyth wrth i’w gynnyrch ennill gwobr Great Taste ym mis Medi 2020.
  • Wrth hyrwyddo cwmni Pembrokeshire Lamb, cododd cyfle i ddechrau cynhyrchu sawsiau bwrdd a sawsiau coginio, ynghyd â sefydlu brand newydd, sef The Welsh Saucery.
  • Gyda gwybodaeth eang a phrofiad personol o’r broses ‘giât i’r plât’ yn ei gyfanrwydd, gall Steve ddarparu arweiniad i unigolion eraill sy’n dymuno gwella eu busnes ac ychwanegu gwerth at eu cynnyrch yn llwyddiannus.
  • Mae Steve yn gredwr mawr mewn datblygiad proffesiynol, a chwblhaodd nifer o gyrsiau hyfforddi Cyswllt Ffermio a manteisio ar nifer o wasanaethau i ehangu ei wybodaeth cyn lansio ei fenter bocsys cig.

Busnes fferm presennol

  • Fferm 100 erw ar denantiaeth gan Gyngor Sir Penfro
  • 250 o famogiaid Suffolk x Texel masnachol
  • Diadell fechan o ddefaid Texel

Cymwysterau/cyraeddiadau/profiad

  • 2020: Gwobr Great Taste 1 seren - Coes Cig Oen Sir Benfro
  • 2020: 3 Gwobr Great Taste 1 seren – The Welsh Saucery
  • 2014 - presennol: Contractwr sy’n darparu gwasanaethau sganio beichiogrwydd a rhew frandio
  • 2019: Enillydd - Gwobr Dysgwr Gydol Oes, Cyswllt Ffermio a Lantra 
  • 2019: Ail wobr - Gwobr Arloeswr Fferm, Lantra2007 - 2012: Rheolwr Ymchwil Defaid, Prifysgol Aberystwyth
  • 2006 - 2007: Bugail
  • 2000 - 2006: Ffermio mewn partneriaeth â’i frawd ynghyd â gwasanaeth godro cyflenwi ar sail hunangyflogedig
  • 1996 - 2000: BSc (Anrh.) Amaethyddiaeth, Prifysgol Harper Adams 

Cyngor da ar gyfer llwyddo mewn busnes:

  1. Gwrandewch a dysgwch - mae rhywbeth i’w ddysgu o bob sgwrs neu sefyllfa. Gwrandewch ar bawb a dysgwch yr elfennau sydd o ddefnydd i chi. Ewch i gyfarfodydd/teithiau fferm ac yn y blaen, a pheidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau. Dyna pam maen nhw’n cael eu cynnal.
  2. Byddwch yn hyblyg ac yn barod i addasu - mae trefn bywyd wedi addasu, mae’r tymhorau wedi newid, mae angen i ni addasu. Dywedodd ffermwr wrtha i ryw dro “os byddwch chi’n parhau i ffermio fel yr oeddech chi’n ei wneud 20 mlynedd yn ôl, roeddech chi naill ai’n gwneud rhywbeth yn anghywir bryd hynny, neu rydych chi’n gwneud rhywbeth yn anghywir nawr”.
  3. Byddwch yn wydn a gweithiwch yn galed. Ni fydd unrhyw beth ar gael heb wneud ymdrech, a does dim amheuaeth y bydd ambell i rwystr ar hyd y ffordd.