Cyfeiriadur Mentoriaid
*Oherwydd cyfyngiadau'r coronafeirws (Covid-19) ar hyn o bryd, gall ein mentoriaid ond gynnal ymweliadau safle yn yr awyr agored yn unig. Fodd bynnag, rydym yn annog mentora digidol, dros y ffôn neu arlein lle bynnag y bo'n bosib.*
Mae gan ein Mentoriaid brofiad personol, a gallant ddatblygu perthynas yn seiliedig at ymddiriedaeth a pharch cyffredin. Byddant yn gallu rhannu eu gwybodaeth, eu profiad a’u barn ddiduedd i’ch cynorthwyo i adnabod eich nodau a chyflawni eich potensial. Mae’n gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, i wrando, dysgu ac ehangu eich gorwelion a allai yn ei dro eich cynorthwyo i ganfod dulliau newydd i fynd i’r afael â sefyllfaoedd newydd ac ymdrin â heriau.
Ein Cyfeiriadur Mentoriaid yw'r prif 'ffenestr siop' sy'n eich galluogi i bori trwy'r rhestr proffiliau nes i chi ddod ar draws mentor sydd â'r cefndir a'r nodweddion a allai fod o fwyaf o gymorth i chi. Yna gallwch gwblhau'r ffurflen gais Rhaglen Fentora. Bydd Cyswllt Ffermio yn hysbysu'r Mentor a ddewisiwyd gennych gan roi eich manylion cyswllt iddynt.