Pam fyddai Behr yn fentor effeithiol

  • Cynrychiolodd Beate Behr, a aned yn yr Almaen, Gymru ddwywaith fel rhan o dîm Cymru yn y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol ac mae galw cyson amdani ledled y DU a thramor fel hyfforddwr a beirniad hefyd.  Trin cŵn defaid yw ei hangerdd, ac eto mae’r fam brysur hon i ddau o blant sydd wedi tyfu i fyny, yn mwynhau’r holl lwyddiant haeddiannol hwn er na chafodd ei magu ar fferm a heb fod yn berchen ar gi hyd yn oed nes ei bod yn 30!  

  • Heddiw, mae Beate, cyn-weithiwr cymdeithasol a hyfforddwr sgiliau, yn gystadleuydd arobryn profiadol ac uchel ei pharch, yn hyfforddwr cŵn, yn driniwr cŵn defaid ac yn ffermwr ymarferol.  Mae ei thîm presennol o bedwar Ci Defaid yn rhan annatod o weithlu'r fferm y mae'n ei rhedeg ochr yn ochr â'i phartner yn Llansannan.  Mae hi’n mwynhau hyfforddi cŵn ifanc, ond mae hi yr un mor hapus yn gweithio gyda chŵn hŷn, mwy profiadol ac wrth gwrs, eu trinwyr – beth bynnag fo’u hoedran!  

  • Symudodd Beate i Gymru yn 2014 ar ôl gyrfa lwyddiannus fel uwch-weithiwr cymdeithasol ac arbenigwr dysgu oedolion yn yr Almaen. Mae’n credu bod y rhan hon o’i bywyd gwaith wedi rhoi empathi tuag at bobl iddi a bod eu hiechyd a’u lles, yn enwedig lles meddyliol, yn bwnc sy’n agos at ei chalon. 

  • Mae Beate yn canmol Pearl, ei Chi Defaid cyntaf, a helpodd hi i ennill nifer o wobrau am hyfforddiant ystwythder yn yr Almaen, am ddod â hi i Gymru.  Roedd hi wedi penderfynu symud i ehangu ei gwybodaeth drwy gynyddu ‘sgiliau’ Pearl ‘a’i sgiliau ei hun’ gan droi’r ddeuawd ‘un fenyw a’i chi’ hwn yn bartneriaeth wahanol iawn ond yr un mor llwyddiannus yn fuan. 

  • Hanes yw'r gweddill!  Yn fuan, daeth Beate yn driniwr a hyfforddwr cŵn defaid arobryn, yn byw ac yn gweithio yng Nghymru ac yn cystadlu ledled Ewrop. Mae ganddi sgiliau a phrofiad sylweddol y mae bellach yn hapus i'w trosglwyddo fel mentor 'trin cŵn defaid' Cyswllt Ffermio. 

  • Gallwch ddisgwyl gael digon o waith cartref!  Mae Beate yn eiriolwr brwd dros ddal eich sesiwn hyfforddi ar fideo fel y gallwch chi barhau i ddysgu o'r profiad, boed yn un i un neu mewn sesiwn grŵp. 

  • Mae ei sgiliau rhyngbersonol gwych yn helpu i wneud pobl yn gartrefol waeth beth fo'u cefndir a'u galluoedd.  Ar ôl byw a gweithio ar ffermydd Cymru am flynyddoedd lawer, mae hi hefyd yn brofiadol mewn wyna, tu fewn a thu allan. Mae Beate hefyd yn arbenigo mewn profi am ddiffygion genetig mewn Cŵn Defaid a bydd yn rhoi arweiniad i chi ar arferion bridio moesegol. 

Busnes presennol y fferm

  • Ffermwr Bîff a Defaid
  • Prynu a magu lloi, gyda buches o thua 30 - 40 yn cael eu gwerthu ymlaen i’w pesgi bob blwyddyn
  • 400 o famogiaid Mynydd Cymreig a Miwl – wedi eu pesgi ar y fferm
  • Bridio a hyfforddi Cŵn Defaid  

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad

  • MA (Rheoli addysg)
  • Gweithiwr cymdeithasol cymwys (yr Almaen) 
  • Cyn Brif Weithredwr ar gyfer sefydliad addysg oedolion (yr Almaen)
  • Cyn hyfforddwr sgiliau a mentor ar gyfer ffoaduriaid (yr Almaen)
  • Hyfforddwr cŵn defaid i Aled Owen sydd wedi bod yn Bencampwr Cenedlaethol dros Gymru chwe gwaith, yn Bencampwr Rhyngwladol pedair gwaith ac yn Bencampwr y Byd ddwywaith. 
  • Pencampwr Trin Cŵn Defaid Cymru Wrth Gefn (2019) 
  • Aelod o Dîm Cymru - Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol (2019 a 2023)

Prif gynghorion ar gyfer llwyddo mewn busnes  

“Gall y cysylltiad rhwng ci a pherchennog ddod mor arbennig os ydych chi'n gweithio ar eich sgiliau gyda'ch gilydd. Mae pob ci yn elwa o gysondeb, amynedd a charedigrwydd. 
“Cofiwch fod cŵn angen seibiant o ran canolbwyntio pan fyddant yn gweithio.  Cyn bo hir, byddwch yn penderfynu beth sy’n gweithio orau iddyn nhw, fel arfer yn gysylltiedig â’u hoedran a’u gallu.”
“Mae manteision i hyfforddiant un-i-un a grŵp ar gyfer trin cŵn defaid.  Mae’n dda cael holl sylw eich mentor neu hyfforddwr ond gallwch chi hefyd ddysgu llawer oddi wrth drinwyr a chŵn eraill.”