Pam fyddai Cheryl yn fentor effeithiol

  • Mae Cheryl yn berchen ac yn rhedeg busnes ymgynghori, yn cynghori a chefnogi ffermwyr a gweithiwyr yn y diwydiant amaethyddol ar iechyd a diogelwch, problemau gweithwyr ac amrywiol bynciau yn ymwneud â busnes gan gynnwys cynigion, adnoddau dynol, olyniaeth, arbediadau costau a phroffidioldeb.  Bydd Cheryl yn cael gwared ar yr ofn o iechyd a diogelwch ar ffermydd ac mae’n rhoi cefnogaeth i ffermwyr o ran anghenion iechyd a diogelwch sylfaenol. 
  • Sefydlwyd y busnes yn 2017 ac mae ei chwsmeriaid wedi cynyddu’n sylweddol ers hynny. Mae Cheryl yn arwain ei chleientiaid trwy’r holl ddeddfwriaeth yn ymwneud ag adnoddau dynol ac iechyd a diogelwch, gan ei gwneud yn broses hawdd i gleientiaid a staff.
  • Gyda 25 mlynedd o brofiad mewn arwain a rheoli, adnoddau dynol ac iechyd a diogelwch, mae Cheryl wedi ei hyfforddi i gyflwyno cyrsiau amrywiol ac arwain unigolion ar sut i gael llwyddiant yn eu busnes. Mae hefyd yn deall pwysigrwydd meincnodi a sut y gall wella proffidioldeb a chynhyrchiant.
  • Cred Cheryl bod olyniaeth a chynllunio ar gyfer y dyfodol yn allweddol yng nghyfansoddiad unrhyw fusnes ac mae wedi gweithio ar brosiectau yn ymwneud ag olyniaeth busnes yn y gorffennol.
  • Gyda gwybodaeth drylwyr o iechyd a diogelwch, mae Cheryl yn gweithio gyda ffermwyr i drefnu arferion iechyd a diogelwch sylfaenol i’w diogelu eu hunain, eu teuluoedd, staff ac ymwelwyr. Mae Cheryl yn deall pwysigrwydd rhoi hyfforddiant iechyd a diogelwch i aelodau o staff a gall eich galluogi i roi iechyd a diogelwch mewn lle blaenllaw yn eich busnes.
  • Mae Cheryl yn angerddol am amaethyddiaeth a chynaliadwyedd yng Nghymru, yn ei bywyd personol a phroffesiynol. Mae wrth ei bodd yn gweld pobl yn llwyddo ac yna eu helpu i barhau i ffynnu.  Mae Cheryl yn rhagweithiol ac yn barod i helpu pawb i ddeall pwysigrwydd cadw pawb yn ddiogel.  Mae’n deall y pwysau y mae’r gymuned amaethyddol yn gallu ei wynebu ac mae’n gobeithio y gall roi’r gallu i ffermwyr weld tu hwnt i’r rhwystrau a symud eu busnesau i’r lefel nesaf. Yn berson positif, mae Cheryl bob amser yn ymdrechu i ddod o hyd i atebion i broblemau.
  • Mae’n wrandawraig dda, a gyda’i hagwedd effeithlon at waith, gall roi cefnogaeth ac arweiniad amserol i ffermwyr.  Mae Cheryl yn gobeithio y gall wneud gwahaniaeth a galluogi busnesau i fod yn gynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol.

Busnes presennol

  • Perchennog ar fusnes ymgynghori ers 2017
  • Cynorthwyo ei gwr ar eu fferm bîff a defaid

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad 

  • Gradd Meistr mewn Adnoddau Dynol, Rheolaeth a Chyfraith Cyflogaeth
  • Iechyd a Diogelwch NEBOSH
  • Gwybodaeth am Gyfraith Cyflogaeth yn Ewrop/y dwyrain canol/Affrica a Rwsia
  • Hyfforddwraig wedi cymhwyso yn llawn
  • Cymhwyster yn iaith arwyddion Makaton
  • Asesydd COSHH

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Grymuso.”

“Arwain trwy esiampl.”

“Gwrando yn weithredol.”