Pam y byddwn i'n fentor effeithiol

  • Rwyf wedi byw a gweithio ar hyd fy oes ar fferm ucheldir deuluol sy’n cadw defaid, sy'n ffinio ag Ardal Ymarfer Milwrol Pontsenni.  
  • Am y chwe blynedd diwethaf, rwyf hefyd wedi rhedeg fy musnes fy hun, sef bugeilio ar gontract, gan weithio ar nifer o ffermydd (gan gynnwys un o'r stadau mwyaf yn y Canolbarth). 
  • Dechreuodd fy niddordeb mewn bridio a dewis cŵn bach ar gyfer hyfforddi, gweithio a gwerthu cŵn defaid dros 10 mlynedd yn ôl. P'un a ydw i'n ffermio gartref neu'n bugeilio ar fferm arall, mae gweithio ochr yn ochr â fy nghŵn fy hun i hel defaid oddi ar dir comin ar gyfer eu marcio, cneifio, dipio ac ati wedi dod yn ddiddordeb yr wyf wrth fy modd yn ei rannu ag eraill.
  • Mae fy mhrofiad a fy ngwybodaeth am hyfforddi cŵn wedi cael ei drosglwyddo i fy mab sydd yn ei arddegau. Rwyf wedi ei fentora wrth iddo fynd ymlaen i ennill nifer o dreialon cŵn defaid ar gyfer pobl ifanc ers yn 14 oed.
  • Mae gen i 25 mlynedd o brofiad hefyd o ddofi a hyfforddi ceffylau, gyda llawer o gleientiaid yn anfon ceffylau newydd ata i dro ar ôl tro. 
  • Rwy'n gyfathrebwr effeithiol ac yn wrandäwr da, yn hapus i gynnig cyngor ac arweiniad i'ch helpu i gael y gorau gan eich cŵn gwaith.

Busnes presennol y fferm

  • Fferm ucheldir 173 erw wedi’i hamgáu, yn ogystal â hawliau pori bryniau.
  • Diadell o 600 o famogiaid Brych Caled Epynt sy'n pori ar y mynydd cyn cael eu gwerthu ymlaen fel mamogiaid â cheg lawn.

Cymwysterau/cyflawniadau/ profiad 

  • Coleg Powys Aberhonddu – diploma amaethyddiaeth
  • Dewis a hyfforddi cŵn defaid ifanc ar gyfer gweithio a gwerthu ers 10 mlynedd
  • Hyfforddi a dofi ceffylau ers 25 mlynedd

Prif gynghorion ar gyfer llwyddo mewn busnes  

"Credwch ynoch chi'ch hun, byddwch yn hyderus yn eich dull ac yn eich gallu eich hun, oherwydd mae cŵn yn reddfol a byddan nhw’n ymateb yn briodol."

"Rydych chi ond yn medi yr hyn a heuir, ac yn achos hyfforddi cŵn, po fwyaf o amser ac amynedd sydd gennych chi, a pho fwyaf o gysondeb a charedigrwydd rydych chi'n ei ddangos tuag atyn nhw, y mwyaf y bydd eich ci gwaith eisiau gwneud ei orau i chi."