Archwilio dichonolrwydd ymarferol ac ariannol tyfu asbaragws yn organig ar raddfa fechan
Mae gan asbaragws botensial da yng Nghymru gan ei fod yn gnwd uchel ei werth sy’n denu lefelau gwerthiant da yn uniongyrchol o’r fferm. Mae’r cnwd yn llenwi’r bwlch rhwng diwedd mis Ebrill a diwedd mis Mehefin pan nad oes llawer o gnydau eraill ar gael yn y DU. Er bod galw mawr am asbaragws, mae’r costau sefydlu’n uchel a’r cyfnod hir cyn y cynhaeaf cyntaf yn golygu nad yw tyfu’r cnwd yn ddewis deniadol i dyfwyr ar raddfa fechan.
Nod y prosiect oedd monitro allbynnau a meincnodi twf asbaragws organig ar ddwy fferm yn Sir Fynwy ar raddfa cae. Y gobaith oedd datblygu dealltwriaeth drylwyr o’r gofynion ymarferol ac ariannol ac i rannu’r wybodaeth ddefnyddiol hyn gyda’r sector ehangach.
Deilliannau’r prosiect
- Gellir tyfu asbaragws yn llwyddiannus o dan reolaeth organig.
- Mae’n hawdd marchnata asbaragws a gall sicrhau pris da os caiff ei werthu'n uniongyrchol ac yn lleol.
- Mae’n anodd cael llafur medrus digonol ar yr adegau prysuraf, a dylid ei ystyried fel cost fawr i'r fenter.
- Ar wahân i lafur, bychan oedd y costau eraill ar ôl y plannu, a'r costau mewnbwn isel sydd wedi arwain at yr elw da ymddangosiadol i'r ffermydd.