Cadwyn Gyflenwi Grawn Hynafol Organig
Mae galw cynyddol gan bobyddion artisan, a mwy o allfeydd masnachol, am rywogaethau hynafol o rawn sy'n dod yn fwyfwy poblogaidd ymhlith defnyddwyr. Mae eu systemau gwreiddiau helaeth, o'u cymharu â mathau modern, yn caniatáu iddynt gael mynediad at faetholion yn fwy effeithlon, ac o ddyfnach o fewn proffil y pridd. Mae hyn yn caniatáu iddynt gael eu tyfu ar bridd llai ffrwythlon a gyda llai o fewnbynnau, gan, o bosibl, gynyddu lefelau rhai maetholion yn y grawn a chystadlu yn erbyn chwyn. Mae llawer yn credu bod gan fara o rawn hynafol flasau gwell a chyfoethocach o'u cymharu â llawer o fathau modern.
Er bod y galw am y rhywogaethau grawn hynafol hyn wedi cynyddu, gall fod yn anodd eu cynhyrchu mewn modd economaidd hyfyw, o ystyried y lefelau isel o gnwd ar y cyfan. Nid oes llawer i ddim gwybodaeth agronomegol gyfoes sy'n ymwneud â mathau o rawn hynafol, a bydd y gallu i wneud ymchwil i effeithiau gwahanol gyfraddau hadu a than-hau ar y fferm yn caniatáu i'r grŵp ffermwyr gael gwell dealltwriaeth o'r agronomeg ac economeg o dyfu'r cnydau.
Fel rhan o'r prosiect hwn, cafodd treialon eu sefydlu yng Ngwanwyn 2019 ar draws pedair fferm yn Sir Benfro yn ymchwilio i agronomeg hynafol a gwenith treftadaeth o'i gymharu ag amrywiad modern. Cynhwyswyd rhai ffactorau rheoli o ddiddordeb, cyfraddau hadu amrywiol a than-hau, a benderfynwyd drwy'r dull ymchwil dan arweiniad y ffermwr.
Drwy fynd i'r afael â rhai cwestiynau agronomig allweddol, y nodau oedd gwella effeithlonrwydd cynhyrchu, gyda'r pobi, y blas a'r prawf maethol i helpu i brofi'r hawliadau a wnaed ar gyfer cynhyrchion yn seiliedig ar rawn hynafol.
Canlyniadau'r Prosiect:
- Mae potensial i wenithoedd Hynafol a Threftadaeth ddod yn gyfle i arallgyfeirio system cnydau ar gyfer ffermydd addas.
- Mae'r Gwenithoedd Hynafol a Threftadaeth yn dangos canlyniadau addawol o'r treial o ran cynnyrch grawn, ansawdd grawn a nodweddion cnydau buddiol fel atal chwyn.
- Nodwyd materion a rhwystrau allweddol ar gyfer tyfu a sefydlu mathau o wenith hynafol a threftadaeth, y gellir eu hystyried o bosibl at ddibenion y dyfodol.