17 Mehefin 2021

 

Mae becws cymunedol ar fferm yn Sir Benfro yn arbrofi trwy gynhyrchu bara gan ddefnyddio ystod o amrywiadau gwenith treftadaeth a grawn hynafol.

Gall tyfu'r rhywogaethau gwenith hyn fod yn dasg anodd, ond mae astudiaeth Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru yn treialu arferion agronomegol i nodi'r dulliau mwyaf priodol er mwyn eu cynhyrchu.

Mae rhai eisoes yn cael eu tyfu yn Sir Benfro.

Mae Rupert Dunn yn tyfu tua 10 hectar y flwyddyn o sawl amrywiad, gan gynnwys poblogaeth gwenith sy'n tarddu o Ffrainc.

Tyfir y rhain ar Fferm Breudeth ger Niwgwl ac ar Fferm Chwilod ger Tyddewi.  

Mae ffermwyr eraill yn yr ardal, gan gynnwys Gerald Miles ar Fferm Organig Caerhys ger Tyddewi, wedi bod yn tyfu cnydau Emer ac Einkorn hefyd.

Mae Rupert a Gabriel Landi ac Emily Roope, ei dîm o bobyddion yn y becws cymunedol, Torth y Tir, ar Fferm Breudeth, yn profi safon pobi, blas ac ansawdd yr amrywiadau hyn mewn blawd a falwyd gan ddefnyddio grawn a dyfir mewn rhanbarthau eraill.

Mae Gabriel yn dweud gan fod ansawdd a chyfanswm y glwten mewn amrywiadau treftadaeth yn is na'r hyn a welir mewn gwenith modern, bod y cam codi olaf yn y broses o gynhyrchu bara yn gyflymach.

Ychwanegodd bod yn rhaid i dymheredd y dŵr a ddefnyddir yn y toes fod yn oerach hefyd, a'r cyfnod eplesu yn fyrrach.

Mae prosiect EIP yn casglu gwybodaeth agronomegol am amrywiadau ŷd hynafol hefyd.

Dywedodd Brocer Arloesi prosiect EIP, Tony Little, y bydd cynnal ymchwil ynghylch effeithiau gwahanol gyfraddau hadu a than-hadu yn cynnig dealltwriaeth well o agronomeg ac economeg tyfu'r cnydau.

Mae'r cnydau sy'n cael eu treialu yn cynnwys amrywiadau a heuir yn y gwanwyn a'r hydref, megis gwenith Barfog Ebrill, Einkorn a Hen Gymro.

Treialwyd pob amrywiad ar wahanol gyfraddau hadu, gyda neu heb feillion wedi'i hau oddi tanynt.

Mae canfyddiadau rhagarweiniol ar gyfer set gyntaf yr amrywiadau a heuwyd yn ystod y gwanwyn yn dangos bod pwysau'r cnwd gan gnydau nas heuwyd cnwd oddi tanynt ac a dyfwyd yn y system organig yn gymharol yn gyffredinol, ond ychydig yn is pan heuwyd cnwd oddi tanynt.  Mae pwysau'r cnwd yn uwch ar gyfer amrywiadau gwenith Barfog Ebrill a Mulika pan gaiff cnwd ei hau oddi tanynt ac yn gymharol ar gyfer Einkorn yn y system fferm gonfensiynol.

Roedd y protein ychydig yn uwch yn y cnwd a heuwyd oddi tano ac a dyfwyd yn organig ond yn lleihau yn gyffredinol trwy hau oddi tano yn y system fferm gonfensiynol.

Nid oedd y gyfradd hadau yn cael fawr iawn o effaith ar bwysau'r cnwd a chynnwys protein ar draws amrywiadau a systemau fferm.

Trwy dreialu amrywiadau a thyfu'r rhai sy'n fwy addas i amodau lleol, bydd angen llai o fewnbynnau a bydd strwythur y pridd yn gwella, a chaiff ôl troed carbon y cnwd ei leihau o bosibl, meddai Mr Dunn.

“Yn gyffredinol, dangosir bod ansawdd maethol yn uwch gan nad ydynt yn cael eu tyfu ar gyfer pwysau'r cnwd yn benodol.”

Yn ogystal, mae cyfradd croesbeillio o 3-5% rhwng amrywiadau yn arwain at rywogaeth newydd o rawn sy'n ffynnu mewn amodau lleol.

Mae'r prosiect yn treialu ffa fel gwrtaith gwyrdd:  tyfir y rhain gyda'r gwenith i sefydlogi nitrogen yn y pridd a mygu poblogaethau chwyn.

Mae EIP Cymru, a ddarparir gan Fenter a Busnes a Chyswllt Ffermio, wedi cael cyllid trwy gyfrwng Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariannir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arferion newydd yn cael eu cyflwyno ar fferm deuluol gyda chymorth Cyswllt Ffermio
2 Rhagfyr 2024 Mae fferm deuluol yng Nghymru wedi cael ei hannog
Gwasanaethau a ariennir gan Cyswllt Ffermio yn lleihau’r baich ariannol i fferm deuluol
09 Medi 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Menter ar y cyd yn datrys cyfyng-gyngor ynghylch ymddeoliad ar fferm yr ucheldir ym Mhowys
04 Medi 2024 Mae cytundeb ffermio contract a hwyluswyd gan fenter