Datblygu grŵp Cig Eidion Mynyddoedd Cambrian i reoli ac ehangu eu cadwyn gyflenwi fer
Mae cadwyni cyflenwi byr ar gyfer bwyd yn digwydd pan fo ffermwyr yn gwerthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i ddefnyddwyr neu gyda chyn lleied o gyfryngwyr â phosibl. Maent yn cynyddu o ran poblogrwydd gan fod defnyddwyr eisiau cynnyrch ffres, tymhorol gyda hanes a tharddiad. Maent yn ddewis amgen i gadwyni cyflenwi bwyd hwy lle nad oes gan ffermwyr bach lawer o rym bargeinio ac yn aml ni all defnyddwyr olrhain y bwyd i gynhyrchwyr penodol neu ardal leol.
Yn y prosiect hwn, fel rhan o brosiect EIP yng Nghymru, roedd grŵp o ffermwyr o Grŵp Eidion Mynyddoedd Cambrian yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau i adeiladu ar gadwyn gyflenwi fer yr oeddent wedi’i sefydlu gyda chigydd arlwyo a oedd yn cyflenwi bwytai moethus. Mae rheoli cadwyn gyflenwi fer yn gofyn am nifer o sgiliau gan gynnwys marchnata, prosesu cynnyrch a datblygu cynnyrch.
Canlyniadau’r prosiect;
- Datblygodd y grŵp strategaeth farchnata ar gyfer eu brand cig eidion a oedd yn golygu deall a mabwysiadu’r cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â dulliau mwy traddodiadol o gyfathrebu
- Roedd cynnwys y genhedlaeth nesaf yn hanfodol er mwyn sicrhau hyfywedd y busnes yn y tymor hir. Cymerodd aelodau iau o’r grŵp gyfrifoldeb dros agweddau megis rheoli’r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â datblygu sgiliau cigyddiaeth
- Roedd deall gofynion y defnyddiwr yn hanfodol er mwyn sicrhau cytundebau tymor hir
- Datblygodd y grŵp eu gwybodaeth ynglŷn â deddfwriaeth a rheoliadau i sicrhau cydymffurfiaeth y busnes
Ceir rhagor o fanylion am y prosiect yn yr adroddiad llawn, ar gael isod.