Ffermio Carbon Niwtral: Asesu’r cyfleoedd a’r heriau

Mae gweithgareddau ffermio a rheoli tir yn adnoddau gwych sy’n gallu dal a storio carbon o’r atmosffer.  Mae ffermwyr hefyd yn gyfrifol am warchod y stoc garbon fwyaf sydd gennym – y pridd. Mae newid hinsawdd yn her sy’n esblygu gyda defnyddwyr a’r rheini sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi yn cyfranogi’n eiddgar yn y ddadl ac yn chwilio am atebion, gyda chryn bwysau a her yn cael eu rhoi ar ffermwyr. Mae polisïau a thargedau’r Llywodraeth hefyd yn newid ac mae’r targedau lleihau nwyon tŷ gwydr wedi cael eu disodli gan darged ‘sero-net’ ar gyfer y Deyrnas Unedig erbyn 2050 ac mae’r NFU wedi gosod 2040 fel targed ar gyfer ‘sero-net’ ym maes ffermio.

 

Y prif elfennau y mae’r prosiect hwn yn ceisio rhoi sylw iddynt yw:

  1. Deall beth yw sero-net a beth mae’n ei olygu i ffermwyr yng Nghymru
  2. Canfod y llinell sylfaen ar gyfer gweithredu a mesur y camau gweithredu hynny
  3. Sicrhau bod gwell tystiolaeth ar gael er mwyn llunio naratif clir sy’n disgrifio’r rôl werthfawr y mae ffermio yn ei chwarae i gyflawni’r blaenoriaethau amgylcheddol a her yr hinsawdd.

 

Mae’r 6 ffermwr o ardal Aberhonddu sy’n rhan o’r prosiect yn rhedeg busnesau fferm amrywiol, gan gynnwys systemau cynhyrchu cnydau, llaeth, cig eidion a chig oen. Byddant yn gweithio’n agos â Phrifysgol Bangor i asesu eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr a’u lefelau dal a storio carbon er mwyn canfod y sefyllfa bresennol (y llinell sylfaen) o safbwynt targedau ‘sero-net’. 

Ymysg y data a gesglir ar allyriadau nwyon tŷ gwydr y ffermydd y mae:

  • Niferoedd da byw, dulliau rheoli a mewnbynnau porthiant er mwyn darparu gwybodaeth am allyriadau eplesu (fermentation emissions) enterig. 
  • Gwybodaeth am reoli maethynnau o ran tail a gwrtaith er mwyn darparu gwybodaeth am nitreiddio a dadnitreiddio’r pridd sy’n arwain at allyriadau ocsid nitrus.   
  • Gwybodaeth am fewnbynnau eraill megis tanwydd, trydan, calch a deunydd gorwedd anifeiliaid

Bydd y data a gesglir ar lefelau dal a storio nwyon tŷ gwydr yn canolbwyntio ar y stoc garbon uwchlaw ac islaw’r ddaear:

  • Stociau Carbon Organig Pridd (SOC) a chyfnewid stoc a bennir drwy samplu priddoedd caeau
  • Stociau carbon uwchlaw’r ddaear megis gwrychoedd a choetiroedd
  • Asesir y cyfleoedd ar gyfer cronni biomas prennaidd megis gadael gwrychoedd heb eu torri, a hefyd asesir yr opsiynau ar gyfer rheoli coed wedi’u cynaeafu megis eu malu’n sglodion ar gyfer biomas, compost neu ddeunydd gorwedd. 

Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn yn rhoi gwell dealltwriaeth i ffermwyr o’r cydbwysedd carbon ar fferm fasnachol a beth ellir ei wneud ym maes amaethyddiaeth i gyfrannu at gyrraedd targed sero-net.