I bleee wyt ti wedi mynd? Treialu defnyddio technoleg olrhain mewn systemau pori eang

Gall pori da byw ar laswelltir eang godi nifer o broblemau fel anawsterau wrth eu casglu, rheoli’r pori a mwy o bosibilrwydd y byddant yn cael eu dwyn. Gyda’r nod o ffermio yn ddoethach yn hytrach na chaletach mae grŵp o chwe ffermwr o bob rhan o Gymru yn ymchwilio i weld sut y gall defnyddio technoleg olrhain helpu i atal y problemau hyn. Mae pedwar o’r ffermwyr yn gynhyrchwyr defaid ar Fannau Brycheiniog, ac yn cyd-bori ar y mynydd yn ystod yr haf. Mae un ffermwr yn pori gwarchodfa arfordirol Cynffig ger Margam, Port Talbot gyda gwartheg. Mae'r ffermwr olaf yn cynnal system pori cadwraeth ar dir yng Ngogledd Cymru. Mae technoleg olrhain da byw yn gysyniad newydd i systemau anifeiliaid pori eang yn y DU a’r prosiect hwn oedd y cyntaf o’i fath yma yng Nghymru.

Y dechnoleg

Y dechnoleg a ddefnyddir yn y prosiect penodol hwn yw un ddyfais allyrru ynghyd â batri, wedi'i gadw mewn coler o amgylch gwddf yr anifail. Mae'r coleri'n cyfathrebu â phorth (erial) sydd wedi'i lleoli mewn ardal sydd â mynediad i'r rhyngrwyd ac yn anfon gwybodaeth i ffonau neu ddyfeisiau clyfar y ffermwyr. 

Y data

Roedd y ffermwyr yn gallu cyrchu’r wybodaeth ganlynol drwy ap ar eu ffonau clyfar:

  • Lleoliad GPS (Lledred, Hydred)

  • Lefelau Gweithgaredd - rhybuddio'r ffermwr am lefel symudiad yr anifail (lladrata posibl)

  • Rhyngweithio Cymdeithasol - cyswllt ag anifeiliaid eraill, a all fod yn ddefnyddiol wrth ystyried rhyngweithiadau rhwng y rhiant a’i epil, asesu gallu mamol yr anifail benyw â choler.

Canlyniadau'r Prosiect:

 

  • Roedd y dechnoleg yn galluogi ffermwyr i wybod ble mae eu hanifeiliaid mewn 'amser real', beth maent yn ei wneud, a ble mae eu hanifeiliaid yn pori dros gyfnod o amser. Gall hyn leihau amser casglu a chostau, lleihau'r risg o ddwyn, helpu i nodi anifeiliaid sâl, a chael gwell dealltwriaeth o arferion pori.
  • Roedd y dechnoleg yn dangos potensial ar gyfer olrhain da byw i helpu cyrff amgylcheddol a rheolwyr tir/porwyr i reoli tir er budd amgylcheddol.
  • Cost yr offer yw'r rhwystr mwyaf i’w ddefnyddio o hyd. Ar adeg y prosiect hwn, roedd coleri olrhain Digitanimal yn £120 yr un.