Rheoli mamogiaid llaeth er mwyn creu gwell canlyniad i gynhyrchu caws

Managing dairy ewes to produce a better outcome for cheese production

Mae cynnwys solet uchel llaeth dafad (5.4% protein a 7% braster fel arfer) yn ei wneud yn gynhwysyn delfrydol ar gyfer cynhyrchion megis caws, iogwrt a hufen iâ. Oherwydd hyn, mae galw cynyddol am laeth dafad, nid yn unig yng Nghymru ond drwy'r DU.
O'i gymharu â'r sector gwartheg godro confensiynol yng Nghymru, mae dealltwriaeth wael o'r hyn sy'n rheoli proffil bacteriolegol llaeth dafad. Nod y prosiect hwn oedd ymchwilio i sut mae'r tri ffactor rheolaethol canlynol yn dylanwadu ar broffil bacteriolegol y llaeth.

1.    Brîd o ddefaid

Cafodd samplau llaeth eu cymryd o grŵp o famogiaid Friesland, Llŷn a Friesland x Llŷn i ymchwilio i weld a yw gwahaniaethau genetig rhwng bridiau yn cael unrhyw effaith ar broffil bacteriolegol y llaeth.

2.    Cyfnod llaetha

Cafodd y mamogiaid eu godro rhwng mis Chwefror a mis Mehefin dros dri cyfnod wyna. Roedd profion llaeth rheolaidd yn asesu a oedd patrwm ym mhroffil bacteriolegol llaeth y mamogiaid yn ystod eu cylch lacio.

3.    Atodiad deiet Seleniwm

Defnyddiwyd un grŵp o famogiaid godro i ymchwilio os gall atchwanegiad seleniwm arwain at lai o achosion o fastitis clinigol ac is-glinigol.

Cyn y twf posib hwn mewn mamogiaid godro i lefel cynhyrchu torfol, mae'n bwysig bod cymaint o wybodaeth am laeth y mamogiaid ei hun wedi'i gasglu cyn cynhyrchu torfol. Gweledigaeth y grŵp oedd bod ar flaen y gad yn y sector datblygol hwn yng Nghymru a rhoi sylfaen gref ar waith lle mae'r system gynhyrchu yn seiliedig ar laeth o ansawdd uchel i'r defnyddiwr.

 

Canlyniadau'r Prosiect:

  • Mae potensial mawr i frîd defaid Llŷn fod yn addas iawn ar gyfer bod yn frîd cynhenid cynhyrchiol i gynhyrchwyr o Gymru ar gyfer cig a llaeth o ansawdd uchel i'w fwyta gan bobl.
  • Mae system "mewnbwn isel - allbwn isel" fel arfer ar y fferm prosiect, yn addas iawn i frîd Llŷn ac i ffermio defaid llaeth yng Nghymru.
  • Mae monitro Cyfrif Celloedd Somatig a chyfrif plât bacterol yn agos y potensial i helpu gyda meini prawf dethol ar gyfer bridio diadell yn y dyfodol drwy gael gwared ar famogiaid o'r ddiadell sydd wedi'u heintio'n gronig â mastitis is-glinigol i helpu i wella a gwthio lefel y cynhyrchu ac ansawdd llaeth ymhellach.