4 Awst 2021

 

Gallai cynhyrchwyr llaeth defaid sy’n cyflenwi’r farchnad gaws gynyddu potensial cynhyrchion caws cyffredinol eu diadell drwy gadw defaid â chyfrif celloedd somatig (CCS) isel. 

Dangosodd blwyddyn gyntaf astudiaeth Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru effaith posibl CCS a heintiau is-glinigol ar gynhyrchiant diadelloedd. 

Mae tri grŵp o 15 dafad Freisland, Lleyn a Lleyn sy’n derbyn lefel uwch o seleniwm yn rhan o brosiect tair blynedd EIP. 

Drwy blotio’r cyfrif celloedd somatig yn erbyn cyfanswm solidau llaeth ar gyfer pob un o samplau llaeth y 45 dafad gwelwyd bod y mwyafrif oedd â chyfrif celloedd somatig uchel ar waelod y ganran cyfanswm solidau. 

Dyma arwydd fod ansawdd llaeth defaid sydd â haint is-glinigol posib a chyfrif celloedd somatig uchel yn is ac felly’n cael effaith negyddol ar faint o gaws sy’n cael ei gynhyrchu.

Yn sgil diddordeb cynyddol mewn cynhyrchu llaeth defaid yng Nghymru, mae’r canfyddiadau cychwynnol yma’n werthfawr i gynhyrchwyr newydd a phresennol, yn ôl Geraint Huws, Brocer Arloesi’r prosiect.

Seilir y canlyniadau ar samplu defaid unigol ar gyfer bacteria llaeth, cyfrif celloedd somatig fel arwydd o lid yn y gadair neu fastitis is-glinigol, canrannau braster menyn llaeth, protein a lactos yn ogystal â Chyfrif Platiau Aerobig bacteria. Cymerwyd samplau swmp llaeth hefyd.  

Cymerwyd swabiau trwynol ddwywaith oddi wrth y defaid Freisland a Lleyn nad oedd wedi derbyn hwb seleniwm, er mwyn astudio bodolaeth a’r math o facteria sy’n bresennol mewn ceudodau trwynol ac er mwyn ymchwilio i unrhyw gydberthyniad rhwng poblogaethau bacteria’r gadair a’r ceudodau trwynol. 

Yn ôl Mr Hughes, doedd hi ddim yn ymddangos bod cydberthyniad yn bodoli rhwng samplau bacteriolegol trwynol a llaeth unrhyw un o’r defaid. 

“Awgrymwyd mewn astudiaethau blaenorol y gallai bacterioleg ceudodau trwynol defaid gynnig mewnwelediad i facterioleg y gadair ond ni chanfuwyd unrhyw beth i gefnogi hynny, felly anwybyddwyd yr awgrym.”  

O’r 45 mamog, roedd gan chwech o blith yr holl grwpiau gyfrif celloedd somatig uchel – pump ohonynt yn ddefaid Freisland, yn ddiddorol iawn. 

 
Ar gyfartaledd, gan y defaid Lleyn oedd heb dderbyn hwn seleniwm oedd y cyfartaledd braster menyn uchaf, sef 7.6%; yn achos y defaid Lleyn a gafodd hwb, y cyfartaledd oedd 7.29% a 6.21% yn achos y defaid Freisland.

Gan y defaid Lleyn y cafwyd y ganran protein uchaf – 6.67% –  mewn cymhariaeth â 6.62% yn achos y grŵp Lleyn arall a 6.02% yn achos y defaid Friesland.

Prin oedd y gwahaniaeth rhwng canran lactos y tri grŵp – gan amrywio o 4.52% yn achos y defaid Friesland i 4.46% yn achos y defaid Lleyn na chafodd hwb; roedd yn 4.36% yn achos y trydydd grŵp.

Yn sgil y gwahaniaethau amlwg rhwng y bridiau, bydd blwyddyn arall o brofion yn ddefnyddiol, yn ôl Mr Hughes.

“Diddorol yw gweld y modd y mae’r bacterioleg yn cael ei ddylanwadu gan y cyfnod  llaetha,” meddai Mr Hughes.

Gobaith y grŵp astudio, yn cynnwys y cynhyrchydd llaeth arobryn Dr Carrie Rimes, y bydd y gwaith hwn o fantais i bob ffermwr llaeth defaid yng Nghymru sy’n edrych i gyflenwi’r farchnad gaws, yn ogystal â chynhyrchwyr caws. 

Cyfeiria Dr Rimes, sy’n derbyn cyflenwad llaeth oddi wrth Alan Jones, un o’r ffermwyr sy’n rhan o’r astudiaeth, ymysg eraill, at welliant sylweddol eleni yn ansawdd y ceuled sy’n rhan o’i phroses gynhyrchu llaeth.

“Does dim amheuaeth fod y cyflenwad llaeth wedi bod yn fwy cyson eleni,” meddai. 

Un o’r rhesymau posib am hynny, a ddaeth i’r golwg yn sgil canfyddiadau’r astudiaeth, yw bod Mr Jones yn gwaredu rhai o’r defaid sydd â chyfrif celloedd uchel o’i ddiadell o 180 o ddefaid Lleyn. 

Mae’r astudiaeth hefyd, meddai, wedi cadarnhau ei ymrwymiad i’r brîd defaid Lleyn. 

“Dengys yr astudiaeth hon, fod ansawdd llaeth defaid Lleyn yn ddelfrydol ar gyfer cynhyrchu caws, meddai Mr Jones, o Dderwen Gam, Pwllheli.

Yn ychwanegol i’r astudiaeth hon, mae Cyswllt Ffermio wedi bod yn cefnogi’r sector newydd llaeth defaid yng Nghymru drwy Agrisgôp a’r Rhaglenni Cyfnewidfa Rheolaeth.

Cynhaliwyd dwy weminar eleni hefyd; profodd y ddwy i fod yn boblogaidd iawn gyda dros 70 o ffermwyr yn ymuno â’r gyntaf. 

A chyn hir, bydd Cyswllt Ffermio’n uwchlwytho fideo ‘Rhithdaith Ryngwladol’ sy’n dilyn hanes George a Hanna, ffermwyr llaeth defaid o Fferm Ballyhubbock.

Mae EIP Cymru, a ddarparir gan Fenter a Busnes a Chyswllt Ffermio, wedi cael cyllid trwy gyfrwng Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariannir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
 

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio